Skip to Main Content
Hope, sydd wedi gadael gofal maeth, gyda’i theulu maeth Sam a Jason

Mae Tîm Maethu Cyngor Sir Fynwy yn dathlu’r Pythefnos Gofal Maeth rhwng  9fed a’r 22ain Mai 2022 drwy amlygu’r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi gwneud i fywydau plant yn Sir Fynwy. Mae’n gyfle i ddathlu’r gofalwyr maeth hynny sydd wedi dangos ymroddiad dros flynyddoedd lawer a’r rhai hynny sydd newydd ddechrau ar eu taith maethu, a hynny wrth iddynt helpu i roi bywydau  gwell i blant.

Mae Maethu Cymru Sir Fynwy am annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth yn eu hawdurdod lleol fel bod plant yn medru aros yn eu hardaloedd lleol, aros yn agos i’w ffrindiau a’u teuluoedd a pharhau yn yr ysgol lle bo’n bosib. Mae hyn yn medru helpu plant a phobl ifanc i gadw gafael ar eu hunaniaeth yn ystod cyfnodau o newid. Mae’n medru eu helpu hwy i gadw mewn cysylltiad a rhoi sicrwydd a hyder iddynt.   

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl  yn sylweddoli mai eich awdurdod lleol, eich cyngor lleol, sydd yn cymryd cyfrifoldeb am blant pan fydd teuluoedd yn profi trafferthion neu pan fydd plant yn byw mewn sefyllfaoedd treisgar a niweidiol, a’ch awdurdod lleol sydd yn dod o hyd i le diogel iddynt ac yn gyfrifol amdanynt.    

Mae yna gyfoeth o wybodaeth yn nhîm maethu Maethu Cymru Sir Fynwy a gweithwyr cymdeithasol ymroddedig sydd oll yn gweithio’n agos gyda theuluoedd lleol ac ysgolion lleol er mwyn adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.    

Byddem yn annog pobl nid yn unig i faethu ond hefyd i faethu gyda’u hawdurdod lleol, sydd yn rhan o Faethu Cymru, sef y rhwydwaith cenedlaethol nid er elw o 22 awdurdod lleol sydd yn gyfrifol am blant mewn gofal.   

Cafodd Hope ei maethu pan oedd yn 12 mlwydd oed ac mae’n siarad yn bositif am ei phrofiadau gyda’i theulu maeth ac mae dal yn agos atynt heddiw. Wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod fel plentyn maeth, dywedodd hi:

“Byddem yn mynd ati i faethu gan fy mod wedi gweld yr hyn y mae’n medru ei gyflawni. Mae’r effaith yr ydych yn medru cael ar blentyn yn sylweddol. Y dyhead i fod yno a gofalu am blant sydd mewn angen er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt mewn bywyd. A oes yna rywbeth mwy y mae plentyn am ei dderbyn na chariad?”

Mae Hope yn annog eraill i feddwl am faethu.

“Os ydych yn medru cynnig empathi, bod yn agored eich meddwl a chynnig lle diogel a fydd yn cynnig cyfle i blentyn i ffynnu, i fod yn hwy eu hunain, yna dylech fynd ati. Dylech roi cynnig ar faethu yn sicr.”

Er mwyn dysgu sut allwch chi faethu, ewch i Fostering in Monmouthshire | Foster Wales Monmouthshire