Skip to Main Content

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu’i ben-blwydd yn 10 mlwydd oed yr wythnos hon, gyda’r dathliadau yn dechrau wrth i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gwrdd gyda cherddwyr lleol, arlunwyr a disgyblion, yng Nghas-gwent ar ddydd Iau, 11eg Mai.

Gyda Chas-gwent yn fan cychwyn (neu’n fan gorffen) swyddogol  ar gyfer Llwybr yr Arfordir,  roedd  Mark Drakeford wedi cwrdd gyda cherddwyr lleol ac eraill yn y dref ar ôl cael ei gyfarch gan ddisgyblion Ysgol Gynradd  Dell. Mae Llwybr yr Arfordir yn cynnig taith gerdded sydd yn 870 milltir (1,400 km) o hyd ac sydd yn mynd o ffin Cymru ger Caer i Gas-gwent, gan gysylltu llwybrau cerdded hanesyddol, fel Ynys Môn, Ceredigion a Sir Benfro.

Roedd y darlledwr arobryn a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn wedi ysgrifennu cerdd yn dathlu’r garreg filltir, o’r enw ‘Bendith Llwybr Arfordir Cymru’. Cyflwynwyd y gerdd gan Ifor yn y digwyddiad ddydd Iau ar ôl i’r Prif Weinidog  ddadorchuddio mainc deilwredig, wedi ei chrefftio â  llaw a’i dylunio gan Tony Bonichi o Newport Wrought Ironwork, a oedd yn dathlu pen-blwydd Llwybr yr Arfordir yn 10 mlwydd oed.   

Roedd y digwyddiad yng Nghas-gwent ddydd Iau hefyd yn gyfle i ddangos gwaith celf gan arlunwyr lleol, sef Sheila Moya Harris a Toby Garratt, gan ddangos cerfluniau o forlo, sy’n amlygu pwysigrwydd yr amgylchedd i Lwybr Arfordir Cymru. Bydd y cerfluniau ar gael i’w gweld ger yr afon yng Nghas-gwent fel rhan o Ŵyl y Celfyddydau ar 16eg Gorffennaf cyn cael eu gosod fel rhan o daith gerdded o gwmpas prif  dirnodau’r dref ar gyfer gweddill y flwyddyn.  

Roedd disgyblion Blwyddyn  2 o Ysgol Gynradd  Dell wedi cynnig perfformiad hyfryd o ‘Penblwydd Hapus’ er mwyn dathlu’r garreg filltir, gyda chacennau wedi eu pobi gan ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Cas-gwent a oedd wedi ennill cystadleuaeth ‘Bake off’.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn golygu ei fod yn fwy hawdd nag erioed i archwilio arfordir Cymru. Yn Sir Fynwy, rydych yn medru mwynhau’r llwybr mewn rhannau byr neu fynd ati i gerdded yr 14 milltir (22 cilomedr) o Gas-gwent i Fagwyr. Yn Sir Fynwy, mae  Black Rock yn gyrchfan poblogaidd gan ei fod yn cynnig golygfeydd anhygoel o Bont Hafren a Phont Tywysog Cymru ac mae’n fan tawel i fwynhau picnic a gwylio’r adar. 

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau  yn cael ei chynnal dros y flwyddyn nesaf drwy gydol 2022 er mwyn dathlu Llwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys gwyliau cerdded, heriau rhithwir a gosod celf. Ers ei agor yn 2012, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi dod yn un  o uchafbwyntiau harddwch naturiol ein cenedl. Mae’r llwybr yn tywys cerddwyr ar hyd arfordir godidog Cymru, gan fynd heibio cannoedd o draethau ac 16 castell.  

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, a oedd wedi treulio amser yn cwrdd â phobl a oedd yn rhan o’r dathliadau: “Mae’r llwybr arfordir yn un o rinweddau mwyaf Cymru ac yn un o’n gorchestion mwyaf balch ers datganoli. Hoffem ddiolch i bawb sydd yn chwarae rhan yn rheoli’r llwybr, yn enwedig y staff a’r gwirfoddolwyr sydd allan ym mhob math o dywydd, yn gweithio’n galed wrth geisio cynnal y llwybrau i’r fath safon uchel.  Pe bai’n rhaid i mi ddewis fy hoff ran o’r llwybr, byddai’r rhan honno rhwng  Pentywyn ac Amroth yn sicr yn gynnig teilwng:  yn dechrau yn fy sir enedigol yn Sir Gâr ac yn gorffen yn Sir Benfro. Efallai nad dyma ran fwyaf adnabyddus y llwybr ond mae’n cynnig amrywiaeth sylweddol: cyfleoedd heriol i ddringo, amrywiaeth anhygoel o flodau, cildraethau cudd a digon o ddiddordeb hanesyddol.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar lwyddiannau’r ddeng mlynedd gyntaf fel bod mwy o bobl yn medru mwynhau’r llwybr, gan ddod o fwy o gefndiroedd a’n cynnig mwy o fuddiannau i gymunedau lleol, busnesau a’r amgylchedd.   

Os hoffech fynd ati i gerdded rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn Sir Fynwy, mae mwy o wybodaeth yma: Llwybr Arfordir Cymru – Dewch i Sir Fynwy