Skip to Main Content

Mae Llyfrgell Cil-y-coed eleni’n dathlu 25 mlynedd o ddarparu llyfrau gwych, ysbryd a chefnogaeth gymunedol. I nodi’r garreg filltir arbennig hon, bydd Cyngor Sir Fynwy yn adfywio adeilad yr Hyb Cymunedol lle mae wedi’i leoli.  Mae’r gwaith adnewyddu yn cynnwys lloriau newydd, ail-baentio a chreu dwy ystafell gymunedol newydd, gan wneud y lle’n barod ar gyfer y chwarter canrif nesaf.  

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Fookes, Aelod Cabinet y cyngor dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu:  “Rwy’n falch iawn i gadarnhau bod y gwaith adnewyddu hwn yn diwgydd i’r Hyb yn barod ar gyfer y dathliadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a bydd o fudd i gymuned Cil-y-coed am flynyddoedd lawer i ddod.”

Er mwyn i’r gwaith hwn ddigwydd, yn anffodus bydd angen cau prif adeilad y Ganolfan Gymunedol dros dro o ddydd Iau 9 Mehefin 2022 am tua chwe wythnos.  Yn ystod y cyfnod hwn bydd Hyb dros dro yn TogetherWorks Cil-y-coed, a fydd yn cynnwys mynediad i rai o wasanaethau’r cyngor a’r gallu i ddychwelyd llyfrau llyfrgell a chasglu eitemau a gadwyd yn ôl.

Yn ystod y cyfnod cau, gall aelodau’r llyfrgell gael mynediad at ystod eang o lyfrau a chylchgronau yn ddigidol.  Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/lawrlwythiadau-digidol/ neu gall cwsmeriaid ymweld â’r ganolfan dros dro yn TogetherWorks Cil-y-coed i gael help i gael mynediad at yr ystod o wasanaethau digidol a ddarperir fel arfer yn yr Hyb.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gwaith adnewyddu yn cymryd llai na chwe wythnos gan ganiatáu i’r Ganolfan ailagor cyn gynted â phosibl.  Bydd Hyb Cymunedol Cil-y-coed yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith adnewyddu ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol: Twitter, Instagram a Facebook dan @monhubs. 

Mae’r tîm Hyb Cymunedol yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bo’r gwaith yn cael ei wneud ar yr adeilad ac maent yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i’r Hyb Cymunedol ar ei newydd wedd yn ddiweddarach yn yr haf.