Skip to Main Content

Mae yna ddigon o ddigwyddiadau llawn hwyl ac ysbrydoliaeth ar gael ar gyfer diwrnodau gyda’r teulu yn Sir Fynwy dros yr hanner tymor, gyda nifer ohonynt am ddim

Mae MonLife Cyngor Sir Fynwy, sydd yn gyfrifol am reoli nifer o amgueddfeydd, atyniadau a chanolfannau hamdden y sir, yn cynnig cyfle i wneud Baneri Gwych a Llyfrau  Lloffion Ardderchog. Mae teuluoedd yn medru creu eu baneri teuluol eu hunain gan ddefnyddio technegau  argraffu neu mae modd iddynt wneud llyfr lloffion yn cofnodi eu hoff bethau a’u hatgofion. Mae’n hwyl ar gyfer y teulu cyfan sy’n creu bach o lanast, ac felly, cofiwch fynd â hen grys neu ffedog. Nid oes rhaid i chi gofrestru o flaen llaw ond rhaid i bob plentyn fod yno gydag oedolyn. Mae’n addas i blant sy’n bedair blwydd oed a’n hŷn. Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 11am a 3pm ar y diwrnodau canlynol: dydd Llun 30ain Mai yn y Neuadd Sirol, Trefynwy; dydd Mawrth, 31ain Mai yn Amgueddfa’r Fenni; dydd Mercher, 1af Mehefin yn Neuadd Drill Cas-gwent.  

Dywedodd aelod cabinet newydd Sir Fynwy ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw, y Cyngh. Sara Burch: “Dyma hanner tymor hollol hanesyddol gan fod yna bedwar diwrnod o ddathlu Jiwbili Platinwm y Frenhines. Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, lle y mae digwyddiadau cymdeithasol wedi eu cyfyngu yn sgil y pandemig, bydd cymunedau Sir Fynwy yn sicr yn mwynhau’r cyfle i ddod ynghyd a dathlu gyda ffrindiau, teulu a chymdogion. Rwy’n falch i weld cynifer o weithgareddau llawn hwyl ac sydd am ddim yn cael eu trefnu ar draws ein canolfannau hamdden, amgueddfeydd a’n Hybiau Cymunedol ar gyfer yr wythnos sydd i ddod.”

Mae Hybiau Cymunedol Sir Fynwy yn cynnal rhai gweithgareddau arbennig sydd am ddim hefyd. Ar ddydd Llun, 30ain Mai, mae Hyb Cas-gwent yn gofyn i blant (4-8 mlwydd oed) i’w helpu i ddathlu’r achlysur drwy greu addurniadau arbennig ar gyfer y Jiwbilî ac ymuno mewn sesiwn dweud stori, a hynny o 2pm. Ar y diwrnod canlynol, sef dydd Mawrth 31ain, am 2pm eto, bydd Hyb Cas-gwent yn cynnal Sesiwn Rhigymau ar gyfer babanod. Mae Hyb Cil-y-coed hefyd yn cynnal  Sesiwn Rhigymau ar gyfer babanod  ar ddydd Mawrth 31ain Mai, rhwng 10.30am-11am, ac yna mae yna sesiwn Addurno Llyfrnod y Jiwbilî ac Amser Stori gyda Thema Frenhinol rhwng 3pm a  4pm ar gyfer y sawl sydd rhwng 4 ac 8 mlwydd oed.

Yn Hyb Brynbuga, mae yna sesiwn Dweud Stori a Chrefftau am ddim am  10.30am ar 1af Mehefin ar gyfer plant hyd at  7 mlwydd oed. Yn Hyb y Fenni, bydd yna ddiwrnod o Straeon y Jiwbilî a Chrefftau ar 1af Mehefin, gyda chroeso i blant o bob oedran rhwng  10.15am-10.45am a 2.15pm-2.45pm. Mae Hyb Trefynwy yn cynnig hwyl am ddim a Sesiwn Rhigymau ar gyfer babanod rhwng 10.30am a 10.50am ar ddydd Llun 30ain Mai, a sesiwn Creu Het y Frenhines a Chreu  Coron am 11am ar ddydd Mercher, 1af Mehefin ar gyfer y sawl rhwng 4 a 7 mlwydd oed. Mae Hyb   Gilwern Hub hefyd yn cynnal Sesiwn Grefftau a Lliwio ar ddydd Mawrth, 31ain Mai a dydd Mercher, 1af Mehefin.    

Mae Gemau Sir Fynwy yn cael eu cynnal eto rhwng 30 Mai a’r 1af Mehefin (8am-5pm; £21 y diwrnod) ar gyfer plant rhwng 5  ac 11 mlwydd oed. Mae yna weithgareddau newydd i roi cynnig arnynt bob dydd, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau. Ffoniwch 01633 644800 neu ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/the-monmouthshire-games/ er mwyn cofrestru.

Bydd Hen Orsaf Tyndyrn hefyd ar agor i ymwelwyr, a hynny fel arfer rhwng  11am a 4pm bob dydd. 

Am fwy o ysbrydoliaeth dros yr hanner tymor, ewch i  wefan Sir Fynwy sydd yn llawn syniadau ysbrydoledig ar gyfer llenwi eich diwrnod mewn mannau ar draws y sir, nifer ohonynt yn cynnwys thema Frenhinol, fel Noson Rasio Parti’r Jiwbilî ar Gae Rasio Ceffylau Cas-gwent ar ddydd Sadwrn 4ydd Mehefin (4pm-9pm), parti arbennig yn yr ardd yng Nghastell Rhaglan (4ydd a’r 5ed Mehefin) ac mae Gŵyl Seidr Cymru yn cael ei chynnal yng Nghastell Cil-y-coed rhwng yr 2ail a’r 5ed Mehefin.    

At hyn, bydd nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod yr hanner tymor yn fythgofiadwy. Os ydych yn trefnu parti stryd er mwyn dathlu’r Jiwbilî, y neges eleni yw “peidiwch â defnyddio pethau untro“ a pheidiwch â defnyddio plastig untro. Mae yna opsiynau amgen sydd yn well ar gyfer yr amgylchedd fel annog ymwelwyr i ddod â’u platiau a’u cwpanau eu hunain, neu ewch ati i fenthyg llestri o’r Llyfrgell o Bethau (benthyg-cymru.org) neu beth am brynu llestri Tsiena  o un o’n Siopau Ailddefnyddio. Wedi eu lleoli yng nghanolfannau ailgylchu Llan-ffwyst a  Five Lanes, mae’r siopau yn gwerthu pethau ail-law hanfodol ac mae’r elw yn cael ei wario ar blannu coed yn y sir. Maent ar agor rhwng 10am a 3pm ar ddydd Mawrth (Llan-ffwyst) ac ar ddydd Mercher (Five Lanes).