Skip to Main Content

Y Cynghorydd Laura Wright yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Sir Fynwy   

 Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dewis Cadeirydd newydd er mwyn gwasanaethu ar gyfer y deuddeg mis nesaf. Roedd y CynghoryddLaura Wright wedi ei hethol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyngor ar ddydd Mawrth, 17eg Mai, ar ôl cael ei henwebu gan Arweinydd y Grŵp Llafur, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby.

Dywedodd y CynghoryddWright: “Hoffem ddiolch i’m ffrindiau a’m cydweithwyr am fy ethol i’r rôl fel Cadeirydd ac am ymddiried ynof. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i ad-dalu’r ffydd yma fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy. Rwyf yn ddiolchgar iawn i’m cydweithwyr ac i drigolion Grofield yn y Fenni sydd wedi fy nghefnogi.”

Mae’r CynghoryddWright yn aelod ar gyfer ward Grofield yn y Fenni. Mae wedi penderfynu amrywio ei ‘chydwedd’ yn ystod ei blwyddyn yn y rôl er mwyn adlewyrchu’r ymroddiadau teuluol, gofalu a gwaith y mae nifer o drigolion yn wynebu yn eu bywydau bob dydd ac mewn modd sydd yn gyson gyda dull modern a  hyblyg Sir Fynwy o weithio. “Drwy ymatal rhag cael yr un person gyda mi ym mhob un digwyddiad, mae hyn yn adlewyrchu ein huchelgais i fod yn Gyngor modern a hyblyg. Rwy’n gwybod y bydd swyddi gan nifer ohonoch ynghyd â chyfrifoldebau teuluol a gofalu – ac felly, drwy beidio â chael yr un cydwedd bob tro, rwy’n credu fod hyn yn dangos ein bod yn medru dod o hyd i ffyrdd i fod yn grŵp o bobl cynhwysol a chynrychioladol,” dywedodd y Cynghorydd Wright.

Ganwyd y CynghoryddLaura Wright yn Wrecsam ac mae wedi gweithio ym maes cymorth iechyd meddwl, ar ôl hyfforddi fel seicotherapydd. “Rwyf yn disgwyl ymlaen at weithio er mwyn cefnogi amgylchedd naturiol ein sir brydferth ac mae mynd i’r afael gyda newid  hinsawdd yn un o’m prif flaenoriaethau. Mae’n anrhydedd cael fy ethol i’r rôl fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy a byddaf yn gwneud pob dim er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd y Cyngor yn parhau’n deg, yn wrthrychol ac yn agored.”

Dywedodd y Cynghorydd Mat Feakins sydd wedi bod yn Gadeirydd am y 12 mis diwethaf: “Mae wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf ac yn bleser i gynrychioli  Sir Fynwy fel Cadeirydd y Cyngor Sir dros y 12 mis diwethaf. Tra bod yr elfen sifig wedi ei heffeithio gan y pandemig sydd yn parhau, roedd dal nifer o uchafbwyntiau. Mae wedi bod yn wych dod i adnabod nifer o aelodau tîm Cyngor Sir Fynwy, ac mae eu hymroddiad a’u pendantrwydd yn ysbrydoledig. Hoffem ddiolch o galon i bawb am eu help a’u cefnogaeth tra oeddwn yn ymgymryd â’r rôl ac rwyf yn dymuno pob lwc i Laura ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.”

Mae’r Cynghorydd Ann Webb, sydd yn cynrychioli ward St Arvans yng Nghas-gwent, wedi ei hethol fel yr Is-Gadeirydd am yr ail flwyddyn yn olynol.