Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn chwilio am brosiectau newydd ac arloesol sydd yn medru helpu mynd i’r afael gyda thlodi bwyd ac yn cynnig elfen ffres sy’n ategu at y prosiectau a’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael. Mae modd i grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, mudiadau’r sector cyhoeddus a busnesau i wneud cais am gyllid, hyd at uchafswm o £15,000.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Food4Growth, prosiect newydd i gefnogi grwpiau a mentrau cymunedol er mwyn datblygu prosiectau arloesol sydd yn ymwneud â bwyd  er mwyn helpu creu buddion cymdeithasol ac economaidd ar draws Caerffili,  Torfaen a Sir Fynwy mewn partneriaeth gyda’r cynghorau yn yr ardaloedd yma. Mae  Food4Growth yn rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.   

Er mwyn bod yn gymwys, bydd prosiectau yn Sir Fynwy angen dangos eu bod yn medru cwrdd ag un neu fwy o’r meini prawf canlynol:

  1. Gwella mynediad at fwyd maethlon a fforddiadwy   
  2. Addysgu pobl ifanc a’u teuluoedd i ddatblygu sgiliau sydd yn ymwneud gyda bwyd   
  3. Gwella’r hyn y maent yn gwybod am fwyd fforddiadwy maethlon   
  4. Cysylltu pobl o bob oedran drwy goginio, tyfu a bwyta  
  5. Rhannu sgiliau a gwybodaeth 
  6. Cefnogi datblygiad busnesau 

Mae’r cynllun yn medru cefnogi ystod o weithgareddau o fewn prosiectau; gan gynnwys costau staff, eitemau cyfarpar bychain, rhaglenni addysg, hyfforddiant a datblygu, prosiectau peilot, treuliau gwirfoddoli, marchnata ac ymchwil.

Mae’r sawl sydd yn gwneud cais i fod yn rhan o’r cynllun angen cyflwyno syniad arloesol a fydd yn mynd i’r afael gyda thlodi bwyd yn eu cymunedau neu’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu menter fusnes. Byddant angen dangos fod yna fuddion clir a chanlyniadau cynaliadwy ar gyfer y prosiect.  Bydd unrhyw grwpiau/busnesau sydd yn derbyn cyllid yn gyfrifol am reoli’r prosiect ond bydd Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi’r prosiect i gyflawni eu hamcanion a’n gweinyddu’r trefniadau cyllidol a chontractwyr.   

Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn 5pm ar 28ain Mai 2022. Bydd penderfyniadau ynglŷn ag a yw’r ceisiadau yn llwyddiannus yn cael eu gwneud gan Banel/Grŵp Gweithredu Lleol Gwledig o fewn 10 diwrnod gwaith ac yn ddibynnol ar system sgorio sydd yn seiliedig, ar y meini prawf gan mai swm penodol o gyllid sydd ar gael. Byddwn yn hysbysu ceisiadau llwyddiannus drwy gyfrwng e-bost.  Rhaid i’r holl brosiectau sydd yn cael eu hariannu gan y cynllun hwn gael eu cwblhau erbyn  Medi 2022.

Mae modd cyflwyno ceisiadau drwy e-bostio Deserie Mansfield yng Nghyngor Sir Fynwy:deseriemansfield@monmouthshire.gov.uk