Skip to Main Content

Fe wnaeth disgyblion a staff yn ysgol gynradd Gilwern barhau trip oes ddydd Gwener 8 Ebrill gyda thaith rithiol fydd yn eu gweld yn mynd o gwmpas y byd. Bydd y prosiect, a ddechreuodd ym mis Hydref 2021, yn codi arian i elusen yn ogystal â helpu dealltwriaeth disgyblion o wahanol wledydd a diwylliannau, gyda’r ffocws presennol ar ymchwilio diwylliant India.

Fel rhan O Gwmpas y Byd mewn Cwricwlwm Newydd Gilwern, bydd staff a disgyblion yn teithio pellter o 50,000 cilometr, y tu mewn a’r tu allan i safle’r ysgol. Mae’r prosiect heriol yn gydnaws gyda chwricwlwm newydd a phwrpasol Cymru ar gyfer ysgolion, gyda phob grŵp blwyddyn yn canolbwyntio ar ddeg gwahanol agwedd wrth i’r cynlluniau a staff gyrraedd y lleoliadau a fwriadwyd. Bydd y meysydd a ymchwilir yn cynnwys yr amgylchedd, bwyd, dawns, cerddoriaeth, celf, arian, chwaraeon a hinsawdd. Mae’r ysgol wedi cyflawni 10,000 cilomedr gan godi dros £4000 ar gyfer Cymdeithas Alzheimer – Unedig yn Erbyn Dementia.

Ar gyfer pob rhan 10,000 cilometr o’r daith, bydd gwahanol elusen yn cael budd drwy nawdd yr ysgol, gyda’r nod o godi punt drwy’r gymuned ehangach ar gyfer pob cilometr a deithir. Hosbis Dewi Sant yw’r elusen y bydd ysgol gynradd Gilwern yn codi arian ati dros y 10,000 cilometr nesaf. Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn ymroddedig i ddarparu gofal unigol, pwrpasol ar gyfer eu holl gleifion a’u teuluoedd, gan weithio gyda chleifion a gobeithio eu cefnogi ar yr adeg fwyaf anodd o’u bywydau. Anelant sicrhau fod gan gleifion ddewis am y gofal a dderbyniant ac mae cadw eu hurddas ar hyd eu taith yn hollbwysig iddynt.

I ddathlu cyrraedd India, dechreuodd disgyblion y diwrnod drwy ddiddanu ymwelwyr gyda dawns Indiaidd draddodiadol ynghyd â pherfformiad cerddorol yn defnyddio’r raddfa Indiaidd ar y gitâr a’r ukulele. Gan mai criced yw chwaraeon cenedlaethol India, roedd chwaraewyr criced proffesiynol Morgannwg, ynghyd ag aelodau o Criced Cymru, yn fwy na hapus i gymryd rhan gan ychwanegu ychydig gilometrau i gyfanswm Gilwern, yn ogystal â chynnal gweithdy bowls a batio ar gyfer y disgyblion.

Jamie Mcilroy, Criced Morgannwg

Darparodd yr ysgol fwyd Indiaidd traddodiadol i’r disgyblion a’r staff, yn cynnwys tatws Bombay, samosas, bhajis wynwynsyn a balti llysiau. Cafodd y rhai a gymerodd ran yn y wledd olchi’r cyfan i lawr gyda glanhawyr llwnc traddodiadol India, yn cynnwys te Chai a Lassi.

Dywedodd Roger Guy, y Pennaeth: “Mae’r prosiect yn aml-haenog, gan ganolbwyntio i ddechrau ar lesiant, a rhannu yr un diben â’n gilydd wrth i ni redeg yn rhithiol o amgylch y byd. Rydym yn cydweithio fel y gwnaiff hwyaid, wrth iddynt hedfan yn eu trefn a rhannu arweinyddiaeth, sy’n adlewyrchiad da o’n harddull arweinyddiaeth yma yn ysgol Gilwern. Mae nifer o aelodau ein staff wedi ymweld ag India o’r blaen, felly roedd yn wych gweld y diwylliant gwych yma yng Ngilwern.”

Bydd dosbarthiadau ac unigolion yn cofnodi’r cyfanswm pellter a orchuddir yn wythnosol, a gan ddefnyddio technoleg helaeth, bydd yr ysgol yn plotio’r daith wrth iddi ddatblygu. Pan orffennir pob 2,000 cilometr caiff cwricwlwm yr ysgol ei ddiwygio i roi astudiaeth fanwl o’r lleoliad a gyrhaeddwyd. Caiff cynnydd yr holl ras ar draws y byd sylw ar gyfrif Twitter yr ysgol: @gilwern_school.

I gyfrannu at Ras o Amgylch y Byd Gilwern, ewch i’r ddolen hon: Roger Guy yn codi arian ar gyer Gofal Hosbis Dewi Sant (Gwent a De Powys) (justgiving.com)