Skip to Main Content

Mae’r wythnos hon yn dynodi blwyddyn ers lansio’r rhaglen ‘Active 60’ MonLife, sydd ar gael i bobl sy’n 60 a’n hŷn i ddod yn fwy corfforol egnïol naill ai mewn dosbarthiadau gyda phobl eraill neu ar-lein: drwy gyfrwng dosbarthiadau ioga, Pilates, tai-chi ac ymarferion ysgafn. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhaglen ‘Active 60’ MonLife wedi bod yn llwyddiant ysgubol, nid yn unig yn cynnig rhaglen ffitrwydd i aelodau ond lles meddwl positif drwy gysylltu ag eraill yn y gymuned. Mae aelodau  Active 60 yn medru cysylltu eu gweithgarwch corfforol gydag  My Wellness to MonLife drwy ddefnyddio ffonau ac oriorau clyfar ac oriawr er mwyn creu eco-system ddigidol lle y mae gweithgareddau yn medru cael eu monitro drwy fynychu sesiynau. Bydd yr aelodau mwyaf egnïol ym mhob canolfan hamdden yn derbyn cydnabyddiaeth a gwobrau ffitrwydd gan MonLife.

Roedd enillydd Y Fenni, Alex, wedi dechrau dod i’r gampfa gan ei fod yn dymuno dod yn fwy cryf er mwyn gwthio cadair olwyn ei wraig, gan iddo ddarganfod fod cadw’n heini hefyd yn gwella ei lesiant cyffredinol. Mae enillydd Cas-gwent, Eve, wedi bod yn mynychu sesiynau nofio a ffitrwydd yn gyson gan gwblhau mwy na 40 o sesiynau ers cofrestru. Mae  Gordon, enillydd Trefynwy, yn hynod werthfawrogol ac yn manteisio ar ei aelodaeth, gan gyfrannu crysau-t MonLife at grŵp lleol sydd yn danfon eitemau i Wcráin. At hyn, roedd enillydd Cil-y-coed,  Lynne, wrth ei bodd gyda’i gwobrau ac wedi darganfod fod tîm Cil-y-coed yn gefnogol ac yn barod iawn i helpu ac roedd  hyn wedi elwa eu hiechyd a’u lles.

Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd sydd yn addas i’r grŵp oedran hwn er mwyn eu hannog i fwynhau bywyd drwy gyfrwng chwaraeon ynghyd â bod mewn gofod cymdeithasol gan fod pobl yn medru cwrdd â’i gilydd a sgwrsio. Bydd   MonLife yn ymuno darparwyr eraill o Gymru i ddarparu’r fenter  ‘Fit4Life 60 Plus’, sydd yn bosib yn sgil cyllid gan Chwaraeon Cymru.

Gyda mwy na 150 o aelodau, mae cynlluniau cyffrous gan MonLife i gyflwyno sesiynau newydd i aelodau a fydd yn cynnwys chwaraeon gwahanol, dawnsio, chwaraeon cerdded, pêl-rwyd tra’n cerdded a bwrdd tenis.  Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon yn chwilio  am gyfleoedd i gyflwyno’r rhaglenni yma i’r gymuned ac i glybiau cymunedol lleol fel hoci tra’n cerdded,   bowls, rygbi cyffwrdd a’r ‘park runs’, gan greu mwy o ddiddordeb yn y gweithgareddau yma. Mae hyn hefyd yn rhoi’r opsiynau i aelodau i  fynd i lefydd cymdeithasol gwahanol a gwella eu iechyd a’u lles.

Mae’r 8 wythnos gyntaf am ddim i aelodau, a’n cael ei ariannu gan Chwaraeon Cymru, ac yn £16.50 y mis wedi hyn. 

Am fwy o wybodaeth am sut i gofrestru, cliciwch ar y ddolen hon os gwelwch yn dda: Active 60 – Monlife