Skip to Main Content

Mae Amgueddfa’r Fenni yn croesawu gweithiau hynod bwysig gan arlunwyr o Gymru eleni, sydd oll yn cael eu hysbrydoli gan yr arlunydd a anwyd yn Sir Fynwy, Arthur Machen, sydd yn adnabyddus am ei waith dylanwadol goruwchnaturiol,  ffantasi ac ercyhlltra.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith celf gan Jon Langford, Pete Williams a John Selway, sydd wedi eu creu er mwyn  amlygu llyfrau Arthur Machen (1863-1947). Cafodd Machen ei ysbrydoli gan ei sir enedigol, Sir Fynwy, ynghyd â’r tirwedd, yr hanes a’r olion Rhufeinig yn ogystal â’r hyn a oedd yn rhyfedd, yn oruwchnaturiol a’n wych. Roedd yr awdur byd enwog  Stephen King wedi disgrifio gwaith Machen, sef The Great God Pan (1890; 1894) fel “Y gorau o bosib (o blith yr holl straeon erchyll) yn yr iaith Saesneg”.

Mae’r arddangosfa yn  arddangos gwaith gwreiddiol ynghyd â darnau print o waith celf sydd wedi eu comisiynu  er mwyn ail-ddangos straeon Arthur Machen gan y cyhoeddwyr o Gasnewydd, The Three Impostors. Mae hyn yn cynnwys rhifyn o un o waith cynnar  Machen, sef ‘The Chronicle of Clemendy’, sydd newydd ei lansio fel cyfres o straeon sydd wedi eu gosod yn Sir Fynwy yn y Canol Oesoedd, gyda darluniau gan yr arlunydd  Jon Langford. Mae yna rifynnau gwreiddiol o waith,  llawysgrifau, llythyron a lluniau Machen.

Wedi ei sefydlu deng mlynedd yn ôl, nod The Three Imposter yw ceisio   cyhoeddi fersiynau safon uchel, ysgolheigaidd o lyfrau diddorol, prin na sydd yn cael eu hargraffu erbyn hyn, ynghyd a darnau perthnasol newydd eraill. Roedd y prosiect cyntaf yn cynnwys ailgyhoeddi tair cyfrol o hunangofiant Arthur Machen, parhau i ailargraffu rhai o nofelau Machen, cyfres o straeon byrion yn ymwneud gyda Machen, yn ogystal â gwaith newydd  a gwreiddiol gan awduron o Gymru.   

Mae’r arddangosfa nawr ar agor ac yn cael ei chynnal yn Amgueddfa’r Fenni tan Ragfyr 18fed 2022. Mae mynediad am ddim ac mae ar agor yn ddyddiol rhwng 11am a 4pm ac eithrio ar ddydd Mercher.  

Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: https://www.monlife.co.uk/heritage/abergavenny-museum-castle/