Skip to Main Content

Bu tîm Gwasanaethau Ieuenctid MonLife Cyngor Sir Fynwy allan mewn ysgolion ar draws Sir Fynwy i hyrwyddo’r etholiadau a gynhelir fis nesaf. Hyd yma maent wedi ymweld ag ysgolion cyfun Cil-y-coed a’r Fenni a bwriadant fynd i Drefynwy a Chas-gwent cyn gwyliau’r Pasg.

Ymunodd Lewis Leigh, seren TikTok Cymru, gyda’r tîm yn Ysgol Brenin Harri VIII yn y Fenni. Mae gan negeseuon @Lewisleigh a’i fam-gu ar TikTok 1.6 miliwn o ddilynwyr a daeth i’r ysgol i greu pytiau byr i annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio.

Dangosodd sesiynau’r Gwasanaethau Ieuenctid fod pobl ifanc Sir Fynwy yn awyddus i gymryd rhan a bod ganddynt ddiddordeb mewn gwybod mwy am sylfeini etholiadau a’r broses. Mae’r tîm Gwasanaethau Ieuenctid yn bwriadu cynnal sesiwn ar-lein ddydd Mercher 13 Ebrill ar gyfer pobl ifanc 14-25 sydd â diddordeb mewn canfod mwy. Bydd y Cyngor Ieuenctid yn ymuno â’r tîm i drafod pynciau yn cynnwys ‘beth yw etholiad lleol’, ‘sut y gallaf gymryd rhan’ a ‘ble gallaf gael gwybodaeth ar fy ward a phwy fydd yr ymgeiswyr yn fy ardal’. Os ydych dan 18 ac yr hoffech gymryd rhan yn y drafodaeth, gwnewch gais drwy’r ddolen hon https://forms.office.com/r/d7Rm49SBQ9

Yn etholiadau eleni ar 5 Mai, gall pobl ifanc 16 a 17 oed gymryd rhan ond mae’n hanfodol eu bod yn cofrestru i bleidleisio cyn 14 Ebrill 2022. Gall pobl ifanc 14 oed ymlaen gofrestru i bleidleisio yma: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio