Skip to Main Content




Mae cytundeb newydd rhwng Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref y Fenni wedi creu partneriaeth i gefnogi a datblygu Theatr Bwrdeistref  hanesyddol y dref. Mae’r cyngor sir yn cynnal gwaith ailddatblygu sylweddol ar y cyfleuster rhestredig Gradd 2 hanesyddol sy’n costio dros filiwn o bunnoedd. Bydd yn creu cyfleuster sy’n addas i’r diben ac yn gallu gwasanaethu’r gymuned leol am flynyddoedd lawer i ddod.

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Lesiant Cymunedol, y Cynghorydd Lisa Dymock, ‘Mae’r cytundeb hwn yn dangos cryfder y berthynas rhwng ein dau gyngor. Edrychwn ymlaen at ddatblygu partneriaeth gref gyda’r Cyngor Tref i greu theatr y byddwn oll yn falch ohoni’.

Wrth i’r inc sychu ar y cytundeb 5 mlynedd, a fydd yn gweld y Cyngor Tref yn ymrwymo £10,000 y flwyddyn i gefnogi’r theatr dros y cyfnod hwnnw, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Polisi ac Adnoddau’r Dref, y Cynghorydd Martyn Groucutt, ‘Mae hon yn bartneriaeth fawr newydd ar gyfer y dref. Ochr yn ochr â’r grwpiau drama a cherddoriaeth lleol gwych sydd wedi defnyddio Theatr y Fwrdeistref fel eu canolfan ers blynyddoedd, rydym yn edrych ymlaen at weld ystod eang o theatrau ac adloniant proffesiynol yn dychwelyd i’r Fenni’.

Nodwedd o’r bartneriaeth yw ei bod yn gweld Theatr y Fwrdeistref a Chanolfan Gelfyddydau Melville yn y dref, sydd wedi’i lleoli ym Mhen y Pound, yn cytuno i gydweithio i sicrhau bod y ddau sefydliad yn cael yr effaith fwyaf posibl. Eisoes mae awydd cryf i gydweithio ac i wneud y Fenni yn ganolfan lewyrchus i’r Celfyddydau. Byddai’r ddau leoliad mewn sefyllfa ddelfrydol i ddod ag ystod eang o ddrama fyw, cerddoriaeth a ffilm i’r dref, gyda phob un yn dod â’i gryfderau a’i arbenigedd ei hunan. Bydd y cytundeb hefyd yn gweld y ddau leoliad yn cydweithio ar ystod o brosiectau ac maen nhw eisoes wedi ennill gwobr sylweddol am brosiect i hyrwyddo drama ymhlith pobl ifanc.

Yn gyffredinol, gall pobl Y Fenni a’r ardal edrych ymlaen at amseroedd cyffrous wrth i’r cynlluniau ar gyfer ailagor Theatr y Fwrdeistref tua diwedd yr haf gyflymu.