Skip to Main Content

Dylai strydoedd Sir Fynwy fod hyd yn oed yn fwy diogel wrth i barthau 20mya gael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Fynwy’r mis hwn.  Bydd y cyntaf o’r prosiectau hyn yn gweld y Fenni, Llan-ffwyst, Magwyr, Gwndy, Cil-y-coed, Porth Sgiwed a Chaerwent i gyd yn gostwng o 30mya y mis hwn fel rhan o ddau brosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Codwyd cynlluniau ar gyfer cyflwyno parthau 20mya peilot ledled Sir Fynwy yng nghyfarfod llawn cyngor Cyngor Sir Fynwy fis Rhagfyr diwethaf. Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog yn 2019 mai 20mya ddylai fod y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer pob ffordd breswyl yng Nghymru.

Yn amodol ar gymeradwyaeth Aelodau’r Cabinet ar 9 Mawrth, cynigir parthau 20mya hefyd ar gyfer Trefynwy a Wyesham, Merthyr Tewdrig, y Dyfawden, Drenewydd Gelli-farch/Mynydd Bach a rhannau o Gas-gwent. Cynigir hefyd y dylid gwneud parth treial 20mya y Bwlwarcau/Thornwell yn barhaol. Mae parthau 20mya Tyndyrn a Rhaglan wedi’u hymestyn am gyfnod pellach o hyd at 18 mis, a chyn diwedd y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w gwneud yn barhaol.

Mae’r cynigion yn rhan allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd a Theithio Llesol drwy anelu at greu diwylliant ar gyfer cyflymder arafach, lleihau nifer a difrifoldeb anafusion ar y ffyrdd, cefnogi dulliau teithio amgen fel cerdded a beicio drwy wneud y ffyrdd yn llai brawychus i ddefnyddwyr cerbydau nad ydynt yn fodurwyr a bod o fudd i les corfforol a meddyliol.

Beth mae hyn yn ei olygu i ardal beilot y Fenni?

  • Bydd yr holl ffyrdd a gynhelir yn gyhoeddus yn yr ardal yn dod yn derfyn cyflymder o 20mya gan gynnwys yr A40.
  • Bydd nodweddion porth yn cael eu cyflwyno i annog cydymffurfiaeth a newid y teimlad wrth i chi fynd i amgylchedd gwahanol iawn.
  • Bydd arwyddion cyflymder electronig yn cael eu codi ar bwyntiau strategol drwy’r ardal.

Beth mae hyn yn ei olygu i ardal beilot Glannau Hafren?

  • Bydd yr holl ffyrdd a gynhelir yn gyhoeddus yn yr ardaloedd preswyl yn dod yn derfyn cyflymder o 20mya gan gynnwys y rhannau o’r B4245 drwy’r pentrefi/tref.
  • Bydd nodweddion porth yn cael eu cyflwyno i annog cydymffurfiaeth a newid y teimlad wrth i chi fynd i amgylchedd gwahanol iawn.
  • Bydd arwyddion cyflymder electronig yn cael eu codi ar bwyntiau strategol drwy’r ardal.
  • Bydd terfynau clustogi yn cael eu cyflwyno i leihau cyflymderau sy’n dod i’r ardaloedd 20mya yn raddol lle bo angen.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth:  “Drwy leihau cyflymder ein strydoedd preswyl, gallwn greu cymdogaethau sy’n cael eu rhannu’n fwy cyfartal rhwng gwahanol ddefnyddwyr y ffordd.  Byddwn yn creu amgylchedd mwy diogel, gan annog pobl i gerdded a beicio a mwynhau treulio amser yn eu cymdogaethau.”

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i hyrwyddo manteision y terfynau cyflymder is drwy gydol yr ymgyrch, gyda Heddlu Gwent yn parhau i orfodi terfynau cyflymder ledled y sir lle bo angen.  Bydd monitro parhaus ym mhob rhan o’r ardaloedd peilot yn parhau, er mwyn i’r cyngor, yr heddlu a Llywodraeth Cymru ddeall lefelau cydymffurfiaeth o fewn y terfynau cyflymder newydd.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymgynghori ar barthau 20mya arfaethedig pellach yn ddiweddarach yn 2022. 

Am fwy o wybodaeth ewch i: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU