Skip to Main Content

Gyda chymorth clwb eco Ysgol Gynradd Cantref, mae gan Barc Bailey y Fenni bellach bum coeden Dderw Goesynnog a phum coeden Ffawydd Coprog newydd sbon, sydd wedi’u plannu ar gyfer ei Mawrhydi’r Frenhines ar gyfer y Jiwbilî Platinwm o dan brosiect Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Ar ôl archwilio seilwaith gwyrdd Parc Bailey, bu’n rhaid symud nifer o’r coed yn y parc am resymau diogelwch. Er mwyn gwneud iawn am y golled, plannwyd 21 o goed eleni. Gan weithio’n dda fel tîm mewn tywydd heriol, rhoddodd clwb eco Ysgol Gynradd Cantref help llaw i staff tir y cyngor gyda phlannu deg o’r coed newydd, pump o Dderw Goesynnog a phump o Ffawydd Coprog. Mae Cyfeillion Parc Bailey hefyd wedi plannu blodau gwyllt yn ystod y gaeaf a bydd cynlluniau i wella seilwaith gwyrdd y parc yn cael eu datblygu’r haf hwn, gan gynnwys adolygiad o’r nant a chynllun rheoli a phlannu coed hirdymor.

Mae grantiau gan Lywodraeth Cymru, drwy Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, wedi caniatáu i’r cyngor wella a datblygu seilwaith gwyrdd yn Sir Fynwy, a Pharc Bailey yw’r buddiolwr diweddaraf. Mae’r Bartneriaeth yn brosiect tair blynedd sy’n rhedeg o fis Mawrth 2020 i fis Mawrth 2023.  

Nod y Bartneriaeth yw gwella a datblygu seilwaith gwyrdd – term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n cyd-fynd ac yn cysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd – yn ogystal â darparu cyfleoedd gwaith gwyrdd yn yr ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy:  “Mae gwella ein seilwaith gwyrdd mor bwysig i’n mannau gwyrdd.  Nod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yw gwella seilwaith gwyrdd yn ardal Gwent, gan ddarparu manteision gwirioneddol i gymunedau lleol.  Mae gan seilwaith gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael ag argyfyngau natur, yr hinsawdd ac iechyd.  Mae’n wych gweld brwdfrydedd plant ysgol lleol yn plannu coed ym Mharc Bailey i wella ein hamgylchedd naturiol, a’u parc lleol.”

Mae Cyngor Sir Fynwy, gan weithio gyda chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru, Forest Research ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, yn arwain Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent. Bydd y sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod adnoddau naturiol yr ardal yn iach, yn gallu gwrthsefyll pwysau a bygythiadau ac felly’n gallu darparu manteision iechyd a lles hanfodol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn well.

Cefnogir y prosiect hwn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, ac fe’i darperir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.