Skip to Main Content

Yng nghyfarfod y cyngor llawn brynhawn heddiw cyhoeddodd y Cyng. Mat Feakins, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y datganiad dilynol ar ddechrau’r sesiwn:

“Mae’r hyn sydd yn digwydd yng ngwlad ddemocrataidd Wcráin dros y saith diwrnod diwethaf yn drawmatig a thrasig. Ni fyddai neb ohonom wedi rhagweld y byddem yn dyst i’r fath ddigwyddiadau yn ein bywydau. Mae’r Cyngor wedi ei gwneud yn gwbl eglur ein bod yn cefnogi Wcráin a’i phobl. Byddwn yn sir sydd yn cynnig noddfa unwaith eto ac yn chwarae rhan lawn mewn unrhyw raglen adleoli yn y DU, a hynny ar gyfer unrhyw bobl sydd yn gorfod gadael Wcráin yn sgil gweithredoedd cywilyddus Rwsia.   

“Mae yna  gynlluniau gwahanol eisoes wedi eu sefydlu ar hyd a lled y sir er mwyn cyfrannu rhoddion a hoffem ddiolch i’r sawl sydd wedi ymgymryd â’r gwaith hon. Rydym hefyd yn cydnabod mai’r ffordd fwyaf cyflym i gynnig help i bobl Wcráin yw drwy gynnig cymorth ariannol ac rydym wedi hysbysebu’r elusennau rhyngwladol sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni hyn.

“Mae’r Cyngor yn adolygu ein trefniadau ariannol er  mwyn cadarnhau a oes gennym unrhyw drefniadau sydd yn elwa Rwsia – os felly, byddant yn cael eu cau.”