Skip to Main Content

Roedd cynlluniau ar gyfer ‘parc velo’ newydd yn Llan-ffwyst, Y Fenni, wedi eu trafod yng nghyfarfod llawn o Gabinet Sir Fynwy ar ddydd Mercher, 2ail Mawrth. Bydd y prosiect yn helpu darparu cyfleusterau ar gyfer seiclwyr ar draws Sir Fynwy tra hefyd yn cynnal digwyddiadau lleol a chenedlaethol.   

Roedd aelodau’r Cyngor wedi cytuno ar greu cyllideb cyfalaf o £492,000 ym mlwyddyn ariannol  2021/22 er mwyn ariannu’r cam cyntaf o adeiladu ‘parc velo’ Y Fenni. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd  Lisa Dymock, yr aelod cabinet ar gyfer Llesiant Cymdeithasol a ddywedodd: “Mae’r prosiect wedi ei ddatblygu ar ôl ymgynghori gyda nifer o randdeiliaid gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Seiclo Prydain, y corff llywodraethu cenedlaethol a dau glwb seiclo lleol. Mae darparu ‘parc velo’ yn Llan-ffwyst yn rhan allweddol o strategaeth seiclo’r Cyngor sydd yn cael ei datblygu ac yn mynd i fod yn rhan o’r rhwydwaith o gyfleusterau rhanbarthol sydd yn cael ei hyrwyddo gan Seiclo Cymru, sef corff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru.”

Yn 2020, roedd y Cyngor wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, i ddatblygu prosiect ar gyfer adeiladu ‘parc velo’ (yn cynnwys  cylchdaith ffordd gaeëdig (a rhai llwybrau hamddenol) yn Racecourse Farm, Llan-ffwyst. 

Mae’r prosiect wedi bod yn brosiect cymhleth wrth i ni ei ddatblygu, a hynny yn sgil topograffi bioamrywiaeth ac ecoleg y safle, gyda nifer o rywogaethau  a warchodir sydd ar y safle neu drws nesaf i’r safle.    

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gydag uwch-reolwyr yn Seiclo Cymru a gyda chlybiau seiclo lleol er mwyn datblygu cynigion ar gyfer rheoli’r ‘parc velo’ a fydd yn debyg iawn i gyfleusterau tebyg eraill yng Nghymru a’r DU.  Bydd y safle yn cynnal ystod o weithgareddau a digwyddiadau perthnasol sydd wedi eu trefnu  gan y Cyngor, clybiau seiclo lleol a Seiclo Cymru. Bydd hefyd ar gael i ysgolion a bydd modd i  glybiau seiclo lleol i hurio’r safle fel bod modd i ni greu incwm er mwyn talu am y costau gweithredol blynyddol. Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu medru cynnal nifer penodol o ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar y safle bob blwyddyn.

Mae darpariaeth parcio dros dro /ychwanegol yn rhan o’r cynllun rheoli ar dir cyfagos sydd yn eiddo i’r Cyngor. Ni fyddwn yn cyfyngu defnydd o’r safle  i seiclo yn unig ond i chwaraeon eraill hefyd (gan gynnwys cadeiriau olwyn, rhôl-sglefrio ayyb), cerdded a rhedeg. 

Mae yna gynnig ar wahân ond perthnasol gan berchennog  Grove Farm ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent,  gyda chefnogaeth gan Dŵr Cymru, i ddatblygu cadwraeth  gwlyptir ar y dolydd dŵr sydd rhwng yr Afon Gwy  a’r ‘parc velo’ arfaethedig. Mae’r cynnig i sefydlu gwlyptir ar dir sydd yn eiddo i’r Cyngor, a gall hyn gynnig y cyfle i ffurfio partneriaeth ar reoli’r cynefinoedd newydd sydd yn rhan o’r ‘parc velo’ arfaethedig.  

Bydd diweddariadau eraill yn cael eu cyhoeddi wrth i’r prosiect ddatblygu.