Skip to Main Content

Yn ystod cyfarfod o’r Cyngor llawn ddoe – dydd Iau, 3ydd Mawrth – roedd Cynghorwyr ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol yng Nghyngor Sir Fynwy wedi cefnogi’r Arweinydd,  y Cyngh. Richard John wrth gondemnio cynlluniau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i dynnu’r cerbydau ymateb cyflym o’r gorsafoedd ambiwlans yn Nhrefynwy a Chas-gwent fel rhan o’i Adolygiad  o’r Trefniadau Cenedlaethol.

Dywedodd y Cyngh. Richard John: “Rwy’n credu bod israddio’r gorsafoedd yma yn mynd i roi bywydau pobl yn ardaloedd Trefynwy, Cas-gwent a Chil-y-coed  mewn peryg, a hynny ar adeg pan y mae’r targedau amser ar gyfer galwadau ‘Categori A’ sy’n berygl bywyd, yn cael eu colli’n gyson, er gwaethaf ymdrechion gorau parafeddygon a gweithwyr rhengflaen y GIG.  


“Eto, mae’n teimlo fod trigolion Sir Fynwy yn dioddef yn sgil yr ymdrechion i ganoli gwasanaethau’r GIG.  Nid yw llawer o’n trigolion hŷn yn gyrru ac yn ddibynnol ar ambiwlans mewn argyfwng meddygol. Mae angen i’r Ymddiriedolaeth ailystyried y cynlluniau yma ar frys oherwydd mae’r hyn sydd yn cael ei gynnig nid yn unig yn anaddas i’r diben ond yn meddu ar y potensial clir i roi bywydau mewn perygl.”

Mae cynghorwyr Cyngor Sir Fynwy yn unedig yn eu gwrthwynebiad tuag at y penderfyniad i israddio’r gorsafoedd ambiwlans yn Sir Fynwy ac yn galw ar  Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru  i ddileu’r cynlluniau yma ac i gwrdd â Phrif Weithredwr  Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru cyn gynted ag sydd yn bosib er mwyn trafod y mater hwn.