Skip to Main Content

Daeth Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Cas-gwent ynghyd i baratoi’r cam nesaf ar daith eu tref, gan osod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dref sy’n amlinellu’r camau sydd angen eu cymryd i sicrhau tref fwy deniadol a bywiog.

Gan adeiladu ar 18 mis yr ymgynghoriad Cynllun Lle a gynhaliwyd gan Cymorth Cynllunio Cymru a’r Place Studio ar ran Cyngor Tref Cas-gwent, mae’r cyfnod nesaf yn canolbwyntio ar Gas-gwent i gyd a bydd yn ystyried newidiadau ffisegol i sicrhau fod Cas-gwent y dyfodol sy’n dref sydd mewn sefyllfa dda i wasanaethu preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr heddiw a’r dyfodol. Wedi’i gefnogi gan gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd y cynllun hwn yn llywio gwariant adfywio y dref yn y dyfodol.

Mae amrywiaeth eang o sefydliadau, busnesau a phreswylwyr Cas-gwent wedi ymwneud yn gynnar yn y Cynllun Lle.

Drwy’r cyfnod ymgysylltu, cafodd themâu allweddol eu dynodi ynghyd â chynigion dechreuol o fewn pob maes pwnc ar gyfer blaenoriaethau cynllunio ac awgrymiadau am brosiectau ymarferol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Grymuso cymunedau a chynnal gwasanaethau
Diogelu, gwella ac amrywio asedau cymdeithasol a diwylliannol y dref yn ogystal â’n cyfleusterau a gwasanaethau gwerthfawr i ddiwallu anghenion holl aelodau’r gymuned.

Gofodau agored ac amgylchedd naturiol
Diogelu a lle’n bosibl wella’r amgylchedd naturiol yn ac o amgylch y dref a sicrhau fod gan bobl o bob oedran a lefel symudedd fynediad i ofodau gwyrdd ac agored ansawdd uchel.

Siopa, gweithio ac ymweld
Sicrhau fod canol y dref yn parhau’n hyb hygyrch a deniadol o’r dref a’r ardal ehangach a chynnal a thyfu safle Cas-gwent fel lle gwych i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.

Mynd o gwmpas
Trin materion yn gysylltiedig gyda phriffyrdd ac effaith lefelau uchel o draffig ac ansawdd aer gwael, a chefnogi creu system drafnidiaeth leol sy’n addas ar gyfer pob taith y mae angen i bobl eu cymryd yn a thu hwnt i’r dref.

Treftadaeth a lle
Diogelu treftadaeth ac asedau amgylcheddol adeiledig y dref a dathlu ein diwylliant fydd yn helpu i ysgogi ymdeimlad o berthyn a balchder ymysg y boblogaeth leol yn ogystal â denu ymwelwyr i’r dref, tebyg i fanwerthwyr a chyflogwyr.

Cartrefi’r dyfodol a datblygu cynaliadwy
Sicrhau bod Cas-gwent yn chwarae rôl weithgar yn nhwf y dref yn y dyfodol, gan ystyried anghenion cenedlaethau presennol a’r dyfodol ar gyfer cartrefi ansawdd uchel, ymatebol i’r hinsawdd a fforddiadwy, o fewn Cas-gwent a hefyd yr ardaloedd o amgylch.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Aelod Cabinet dros yr Economi: “Rydym yn falch iawn i symud ymlaen gyda’r darn pwysig hwn o waith a bod Cyngor Tref Cas-gwent wedi ymuno gyda ni i gomisiynu paratoi’r cynllun. Bydd yr ymgynghoriad helaeth a gynhaliodd Cyngor Tref Cas-gwent dros y 18 mis nesaf yn werthfawr tu hwnt wrth lywio camau gweithredu’r dyfodol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda llawer o randdeiliaid gwahanol i ddatblygu’r cynllun a’i roi ar waith.”

Dywedodd y Cynghorydd Dale Rookes, Cynghorydd Tref Cas-gwent a Chadeirydd Grŵp Llywio y Cynllun Creu Lle: “Bu cyngor Tref Cas-gwent yn gweithio dros y 18 mis diwethaf i ffurfio ‘Cynllun Lle’ a fedrai helpu i lunio dyfodol datblygu cynllunio o fewn y dref. Rydym wedi cynnwys preswylwyr, ymwelwyr a rhanddeiliaid cymunedol ym mhob rhan o’r broses, a bu eu mewnbwn yn werthfawr tu hwnt. Bydd y cydweithio hwn ar ‘Gynllun Creu Lle’ yn adeiladu ar y gwaith hwnnw. Unwaith, eto, gofynnwn am help preswylwyr i lunio ‘gweledigaeth’ ar gyfer Cas-gwent y gallwn i gyd ymfalchïo ynddo.”

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio arolwg yn gwahodd sylwadau ar sut mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn defnyddio Stryd Fawr Cas-gwent a’r ardal siopa o amgylch ar hyn o bryd a sut yr hoffent eu defnyddio. Bu’r Stryd Fawr yng Nghas-gwent ar gau i gerbydau ers mis Mawrth 2020 heblaw am fynediad i faeau parcio i’r anabl ar Stryd Banc ac ar gyfer nwyddau’n cyrraedd rhwng 4pm a 10am. Gwnaed y newid hwn i alluogi siopwyr i gadw pellter cymdeithasol, cefnogi masnachu awyr agored a chefnogi cerdded a seiclo. Bu amrywiaeth fawr o sylwadau ar hyn, felly mae’r Cyngor yn awr yn ystyried dewisiadau tymor hirach fel rhan o gynigion Cynllun Creu Lleoedd Cas-gwent a Theithio Llesol, a hoffai glywed gan gynifer ag sydd modd o bobl er mwyn helpu i lunio cynlluniau’r dyfodol.

Gellir llenwi’r arolwg ar-lein  https://www.monmouthshire.gov.uk/shop-local/chepstow/ neu mae holiaduron ar bapur ar gael o swyddfeydd Cyngor y Dref, Hyb Cas-gwent a Chanolfan Groeso Cas-gwent. Daw’r arolwg i ben ganol-dydd ar 15 Mawrth.