Skip to Main Content

Wrth i ni agosáu at gyfnod yr etholiadau lleol eleni ym mis Mai, gofynnir i gynghorwyr ac ymgeiswyr ar draws pob grŵp gwleidyddol yn Sir Fynwy ymrwymo i ymgyrch etholiadol deg a pharchus. Mae hyn yn dilyn cyfarfod yr wythnos diwethaf o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pan gytunodd pob un o’r 22 arweinydd cyngor ar ddatganiad ar y cyd yn cadarnhau eu bod yn addo mabwysiadu’r dull hwn.

Yn Sir Fynwy, mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Richard John, y Cynghorydd Dimitri Batrouni, arweinydd y grŵp Llafur, y Cynghorydd Jo Watkins, arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Cynghorydd Simon Howarth, arweinydd y grŵp Annibynnol, wedi cytuno i addo cynnal gwerthoedd tegwch a pharch wrth iddynt ymgyrchu ar gyfer etholiadau mis Mai.

Yn Sir Fynwy, mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Richard John, y Cynghorydd Dimitri Batrouni, arweinydd y grŵp Llafur, y Cynghorydd Jo Watkins, arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Cynghorydd Simon Howarth, arweinydd y grŵp Annibynnol

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Richard John, sydd hefyd yn arweinydd y grŵp Ceidwadwyr: “Dylai gwleidyddiaeth ganolbwyntio ar ffeithiau a thrafodaeth barchus am wahaniaethau polisi neu flaenoriaethau, nid sarhad neu anoddefgarwch, camwybodaeth, gwreig-gasineb, gwahaniaethu neu anghydfod. Mae etholiadau’r cyngor yn ymwneud â rhoi cyfle i bleidleiswyr ddewis unigolion a fydd yn hyrwyddo eu hardal leol ac yn helpu i wneud ein sir yn lle gwell fyth i fyw ynddo. Credaf, drwy gytuno ar yr addewid trawsbleidiol hwn, y byddwn yn cefnogi’r rhai sy’n cyflwyno eu henwau i’w hethol ac yn rhoi etholiad teg, agored a pharchus i’r cyhoedd.”

Dywedodd arweinydd y grŵp Llafur, y Cynghorydd Dimitri Batrouni: “Rwy’n falch ein bod wedi dod at ein gilydd i gytuno ar y dull teg a pharchus hwn.  Yn anffodus, ledled y DU bu nifer cynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr ar draws pob grŵp gwleidyddol yn cael eu cam-drin, eu sarhau a’u bygwth. Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, mae’r ymddygiad hwn yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafodaethau. Rwy’n falch o sefyll gyda chydweithwyr o ran yr addewid hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Jo Watkins, arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol: “Mae’n hanfodol ein bod ni oll yn garedig ac yn deg yn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud. Mae angen i ni hefyd dawelu meddwl a chefnogi’r ymgeiswyr hynny sy’n sefyll am y tro cyntaf eleni, sy’n newydd i fywyd democrataidd, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwybodol eu bod mewn lleiafrif neu sydd eisoes wedi profi gwahaniaethu.”

Dywedodd Arweinydd y grŵp Annibynnol, y Cynghorydd Simon Howarth: “Un o werthoedd craidd Cyngor Sir Fynwy yw caredigrwydd, felly rydym yn ymdrechu i drin pawb gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch ac rydym yn sefyll gyda’n gilydd i alw am roi terfyn ar gam-drin, bygwth ac aflonyddu o unrhyw fath.  Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni ddechrau ar y cyfnod allweddol yn y cyfnod cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.”

Bydd y cytundeb hwn rhwng pob grŵp gwleidyddol, i gynnal ymgyrch etholiadol deg yn seiliedig ar ymgyrchu a theilyngdod cadarnhaol, yn hytrach nag ymosodiadau personol a sarhad yn erbyn unigolion, hefyd yn barod i adnabod a nodi unrhyw ymddygiad amhriodol a chymryd ymagwedd dim goddefgarwch tuag at gam-drin. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:  “Mae unrhyw ymddygiad amhriodol, boed hynny ar lafar, yn gorfforol neu’n ysgrifenedig ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gwbl annerbyniol a bydd camau’n cael eu cymryd os tybir bod rhaid gwneud hynny.”