Skip to Main Content

Mae rhai o drefi Sir Fynwy ar fin dod yn rhai SMART, sef seilwaith digidol newydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac sy’n cael ei osod gan Gyngor Sir Fynwy yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga dros y misoedd nesaf. Bydd y dechnoleg hon yn caniatáu i dref gasglu data amdano’i hun ac yn galluogi rhanddeiliaid canol trefi i wneud penderfyniadau busnes gwell yn seiliedig ar y data hwn. 

Mae trefi SMART yn mabwysiadu’r un dechnoleg a data y mae brandiau cenedlaethol wedi bod yn eu defnyddio ers degawdau i alluogi busnesau bach a chanol trefi i gystadlu’n gyfartal.  Mae hyn yn golygu bod canol trefi a busnesau unigol yn cysylltu pobl leol ac ymwelwyr yn weithredol â’r wybodaeth y maent am ei chael am y dref, gan gynnwys unrhyw ddigwyddiadau neu hyrwyddiadau yng nghanol y dref. Pan fydd pobl yn ymweld â chanol tref smart, byddant yn cael profiad mwy esmwyth, lle cânt wybodaeth berthnasol drwy arwyddion digidol, apiau tref a mynediad at fwy o ddata a thechnoleg drwy feinciau clyfar a dodrefn stryd smart eraill. 

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros yr Economi:  “Mae’r prosiect cyffrous hwn, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, yn un o sawl ffordd rydym am ddatblygu ein strydoedd mawr. Drwy ddefnyddio’r dechnoleg SMART hon a chasglu data defnyddiol, gallwn fod hyd yn oed yn fwy gwybodus wrth wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, sy’n allweddol i helpu canol ein tref i ffynnu a datblygu.”

Er mwyn cynghori pobl ar y mathau o dechnoleg sy’n cael eu gosod a sut y gall helpu, mae Owen Davies Consulting wedi bod yn gweithio gan Gyngor Sir Fynwy i siarad â busnesau a chymunedau yng Nghas-gwent, Cil-y-coed, Trefynwy a Brynbuga. Mae Owen Davies Consulting eisoes yn treialu’r dull hwn yn y Fenni a bydd yn ymestyn y gwaith hwn i’r trefi sirol eraill.  

Meddai Owen Davies o Owen Davies Consulting:  “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar draws holl drefi Sir Fynwy. Fel busnes yn y Fenni, gallwn weld y manteision o gael mynediad at ddata digidol i helpu ein gwaith cynllunio busnes ac rydym am rannu ein profiad ar dechnoleg ddigidol ac adfywio i weithio gyda busnesau a rhanddeiliaid eraill yn y dref fel y gallwn groesawu’r agenda digidol.”

Cysylltir â busnesau’n uniongyrchol neu drwy’r grwpiau busnes/cynghorau tref mewn trefi lleol dros y misoedd nesaf.