Skip to Main Content

Mae prosiect datblygu partneriaeth newydd wedi dechrau ar safle ym Mhorthsgiwed, Sir Fynwy, ar ôl i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo ym mis Chwefror 2020. Mae’r partneriaid Melin Homes, Candleston (is-gwmni o Melin), a Chyngor Sir Fynwy, wedi bod yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer yr ardal ers 2016.

Mae’r prosiect preswyl, sydd yn werth £55 miliwn, wedi ei ariannu gan  Melin Homes ac yn mynd i arwain at adeiladu 269 o gartrefi newydd. Bydd y safle hefyd yn cynnwys gofal cartref a fydd yn cefnogi 32 o bobl sydd yn byw gyda dementia. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru drwy Fwrdd Iechyd Bwrdd Parterniaeth Rhanbarthol Gwent. 

Fel rhan fwriadol o’r datblygiad ehangach, bydd y cartref gofal newydd yn caniatáu pobl sydd yn byw â dementia i gysylltu ac i fod yn rhan o’u cymuned. Dyluniwyd y cartref fel rhan o bartneriaeth rhwng Penseiri Pentan a Chyngor Sir Fynwy. 

Bydd datblygiad Heol Crug yn elwa o fwy o fannau gwyrdd, parc,  perllan, cloddiau o gwmpas y ffin a llwybrau cerdded diogel ar gyfer y gymuned i archwilio’r mannau gwledig.    

“Rydym wrth ein bodd bod y prosiect arloesol hwn sydd yn bartneriaeth, sydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent drwy gyfrwng Cronfa Gofal Cyfalaf Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect hwn yn arwain at gartref gofal arloesol a fydd yn rhan o gynllun preswyl mwy yn Sir Fynwy. Mae’r prosiect wedi ei ddarparu mewn partneriaeth gyda mudiadau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector ac yn mynd i arwain at fuddsoddiadau sylweddol, gan gynnwys creu swyddi o fewn yr ardal,” dywedodd Cyngh. Cockeram, Cadeirydd Bwrdd Parterniaeth Rhanbarthol Gwent.

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin Homes: “Y cynllun hwn yw ein datblygiad mwyaf hyd yma yn Sir Fynwy ac yn amlygu’r ffaith ein bod yn medru cyflawni tipyn yn fwy wrth weithio gyda’n gilydd. Bydd y cynllun yn dwyn ynghyd  68 o dai fforddiadwy i’r ardal a 201 o eiddo ar y farchnad agored. Rydym wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn ystyried y gymuned leol, yn ychwanegu at yr ardal wledig hyfryd, gyda nifer o opsiynau ar gyfer teithio llesol er mwyn annog pobl i gerdded a seiclo ynghyd â phwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan. At hyn, drwy weithio gyda’n partneriaid yn Y Prentis, byddwn yn cynnig swyddi i brentisiaid lleol yn yr ardal, gan ddarparu sgiliau a swyddi i bobl Sir Fynwy”.

Dywedodd Scott Rooks, Cyfarwyddwr Masnachol Candleston: “Mae hwn yn ddatblygiad ffantastig, a’r mwyaf hyd yma yn dilyn ein dau ddatblygiad cyntaf  yng Nghoed Glas, Y Fenni a’r Grove, Llan-ffwyst. Mae Candleston yn adeiladwr tai lleol o’r radd flaenaf sydd yna adeiladu tai cynaliadwy o safon uchel, tra’n gwneud buddsoddiadau hirdymor yn ein cymunedau. Bydd datblygiad Heol Crug yn cynnig amrywiaeth o dai dwy, tair a phedair ystafell wely. Mae’r rhan gyntaf yn cychwyn yn gynnar yn 2022, gyda’r rhai cyntaf yn cael eu cwblhau yng Ngwanwyn 2023. Er mwyn cofrestru eich diddordeb, ewch os  gwelwch yn dda i www.candlestonhomes.co.uk

Dywedodd Cynghorydd Sir Fywny Penny Jones, aelod cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol: “Mae ein partneriaeth gyda Melin Homes a Candleston wedi ein caniatáu i integreiddio cynlluniau ar gyfer y gofal cartref newydd hwn i mewn i’n datblygiad, gan roi anghenion trigolion yn gyntaf tra’n gosod y gymuned wrth galon y prosiect hwn.   

“Mae gofal cartref Heol Crug wedi ei ddatblygu gan bobl sydd â phrofiad ac wedi gweithio ym maes gwaith gofal preswyl. Y nod yw cynnig ‘cartref oddi cartref’ i bobl sydd  â dementia i fyw eu bywydau mewn lleoliad lle y maent yn medru parhau i fwynhau eu diddordebau a chysylltu gyda’u cymunedau,”  parhaodd y Cyngh. Jones. “Bydd y gofal cartref yn cynnig lle i 32 sydd yn byw â dementia.  Bydd yna 4 tŷ preswyl hefyd yn cael eu hadeiladu, ar lefel daear, pob un ar gyfer wyth o bobl. Y nod yw lleihau’r raddfa a chreu amgylched sydd yn ymddangos ac yn debyg i gartref y byddai pob un ohonom yn adnabod. Bydd model staffio newydd yn ffocysu ar weithio gyda phobl ac nid gwneud popeth ar eu rhan, a thrwy gynnwys eu teuluoedd, byddwn yn sicrhau bod trigolion yn chwarae rhan lawn ym mhob rhan o fywyd bob dydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Aelod Ward Porthsgiwed ar Gyngor Sir Fynwy “Rwy’n croesawu’r bartneriaeth rhwng  Cyngor Sir Fynwy, Melin a Candleston, a fydd gyda’i gilydd, yn adeiladu cartrefi lleol sydd gwir eu hangen. Bydd ychwanegu cartref gofal o’r radd flaenaf hefyd yn cynnig buddion sylweddol i’r ardal ehangach, gan ddiwallu anghenion y sawl sydd yn byw â dementia ac yn atgyfnerthu’r cysylltiad gyda’r gymuned.”

Bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu dros bum rhan, gyda’r prif ddatblygwr Lovell yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu dwy ran gyntaf y cynllun.