Skip to Main Content

Mae gwasanaeth gan Gyngor Sir Fynwy, sydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi a gwella eu sgiliau, yn ail-lansio gyda delwedd newydd ac apêl newydd i drigolion i gysylltu gyda’r gwasanaeth os ydynt angen eu help. Mae’r tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn cefnogi trigolion sydd yn byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy drwy ddarparu cyfleoedd iddynt wella eu lles, mynd i fyd gwaith neu elwa o addysg neu hyfforddiant pellach.  

Mae’r gefnogaeth yn cael ei darparu drwy gyfrwng ystod eang o wasanaethau fel:

  • Cefnogaeth 1:1 gyda chyflogaeth i bawb sydd yn  16 +.
  • Cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein sydd yn ymwneud gyda’r byd gwaith ac wedi eu hachredu   .
  • Ymroddiad at wella cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, graddedigion ac interniaeth.
  • Ymgysylltu gyda busnesau a chefnogaeth gyda hunangyflogaeth.
  • Cefnogi pobl ifanc ac oedolion sydd mewn peryg o ddigartrefedd.
  • Cefnogi pobl ifanc sydd mewn ysgolion uwchradd i barhau ym myd addysg  

Mae ail-lansiad y gwasanaeth, sydd yn cynnwys brandio newydd a chynnwys newydd ar-lein, yn dod ar adeg pan mae heriau ac effaith y pandemig  dal yn cael eu teimlo, gyda nifer o bobl yn wynebu rhwystrau wrth fynd i’r byd gwaith neu wrth geisio cael mynediad at fathau eraill o hyfforddiant gan fod nifer o’r gwasanaethau cymorth yn gweithredu’n wahanol.  

Fel rhan o’r ail-lansiad, mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ar dudalen Facebook benodol, sydd yn golygu bod pobl yn medru dod o hyd i’r holl wybodaeth a’r gefnogaeth sydd angen arnynt mewn un lle. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan wefan ganolog newydd yn yr wythnosau nesaf. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Cymdeithasol a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Lisa Dymock:

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein trigolion ar draws y sir, o’r rhai ifanc sydd yn cymryd eu camau cyntaf ar y daith hon, i bobl hŷn sydd yn ceisio uwchsgilio neu newid gyrfa.   

“Rydym yn deall y rhwystrau y mae ein trigolion yn wynebu wrth geisio mynd i fyd gwaith a chadw eu swyddi a byddwn yn gwneud mwy yn y misoedd nesaf i gysylltu gyda’r rhai sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig drwy ein Bws Allgymorth Cymunedol. At hyn, rydym am adeiladu perthynas gyda’n busnesau lleol, cynnig cymorth i fusnesau a chymorth i drigolion sydd am ddod yn hunangyflogedig.  

“Rydym am i Sir Fynwy i fod yn lle y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Yn cynnig cyfle i wella eu llesiant a’n cael mynediad at yr addysg, y gyflogaeth a’r sgiliau sydd angen arnynt i ffynnu yn eu bywydau gwaith.”

Os hoffech ddysgu mwy, yna cysylltwch os gwelwch yn dda gyda: https://www.facebook.com/MCCEmploySkills