Skip to Main Content

Gyda chostau tanwydd yn parhau i gynyddu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar bod taliadau tanwydd gaeaf blynyddol ar gyfer aelwydydd cymwys wedi cynyddu o £100 i £200. Yn ychwanegol, cafodd yr amserlen ar gyfer ceisiadau ei hymestyn tan 28 Chwefror 2022, gan roi mwy o amser i aelwydydd wneud cais.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Fynwy y bydd unrhyw un a wnaeth gais am daliad y gaeaf hwn cyn y cyhoeddwyd y cynnydd yn awtomatig yn derbyn taliad ôl-weithredol ychwanegol, os y talwyd £100 iddynt eisoes, neu’r taliad unigol o £200 os na wnaethant gais eto.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy yn https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyfleustodau/ lle mae dolen ar gael i’r ffurflen gais, neu gallwch ffonio Canolfan Gyswllt y Cyngor ar 01633 644644 neu alw heibio un o’r Hybiau Cymunedol lle gall rhywun eich cynorthwyo.

Mae ymgyrch Materion Arian y cyngor yn parhau i hyrwyddo ystod eang o gymorth i’r rhai sydd â phryderon ariannol. Mae’n anelu i gyfeirio pobl at wahanol ddulliau o gymorth, gan ein hatgoffa i gyd y gall dyled effeithio ar unrhyw un, beth bynnag eu hamgylchiadau. O hanfodion tebyg i fwyd, gwres ac arian i gymorth cysylltiedig tebyg i iechyd meddwl, cyflogaeth a thai, mae mwy o help ar gael nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli. Os nad ydych yn sicr pa gymorth y gallech fod ei angen ond yr hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch edrych ar https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/materion-arian/ neu ffonio 01633 644644.  Yn lle hynny, gall Cyngor Ar Bopeth hefyd roi arweiniad ar 0800 702 2020.