Skip to Main Content

Ymatebodd pobl ar draws y byd mewn sioc pan dorrodd y newyddion ar Chwefror 24ain am ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin. Yn y dyddiau ers hynny, mae’r byd wedi gwylio mewn arswyd ar y gwrthdaro y mae pobl yr Wcráin yn ei ddioddef. Er y gallai’r gwrthdaro hwn ymddangos yn bell i ffwrdd, mae ei effaith wedi lledaenu fel siocdon ar draws y byd.  Mae ein meddyliau yn anochel gyda phobl yr Wcrain, o fewn y sir ei hun a gyda’r rhai yma yng Nghymru a allai fod yn bryderus am deulu a ffrindiau yn y wlad.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau ei ymrwymiad i gefnogi pobl yr Wcráin.  Dywedodd ei Arweinydd, y Cynghorydd Richard John:  “Mae digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr Wcráin yn rhywbeth nad oeddem wedi gobeithio ei weld yn ystod ein hoes.  Nid oedd Ewrop i fod i weld y fath  rhyfelgarwch direswm eto, yn dilyn rhyfeloedd y ganrif ddiwethaf.  Yr ydym yn sefyll gyda’r Wcráin ac yn cydnabod y nifer fawr o bobl Rwsia sydd â chywilydd o’u Llywodraeth. Rydym yn barod i gefnogi’r rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro, a byddwn yn chwarae ein rhan mewn unrhyw gynllun sy’n dod i rym i gynorthwyo ffoaduriaid.”