Skip to Main Content

Ym mis Tachwedd 2021, cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy arolwg ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr Magwyr i rannu eu barn ynghylch a ddylid gwneud y cyfyngiadau traffig cyfyngedig yn Sgwâr y pentref, a gyflwynwyd i helpu gyda chadw pellter cymdeithasol a chreu amodau i gefnogi busnesau i weithredu’n ddiogel, yn rhai parhaol.  Cafodd yr arolwg ymateb anhygoel, gyda 548 o bobl yn cymryd yr amser i gymryd rhan.

Yn dilyn dadansoddi’r ymatebion, dangoswyd bod 77% am i’r addasiadau presennol i’r Sgwâr gael eu gwneud yn barhaol gan y teimlwyd eu bod yn dod â mwy o fywyd i galon y pentref, yn creu amgylchedd mwy diogel i gymdeithasu a symud o gwmpas, a gwella awyrgylch y gymuned.

Casglodd yr arolwg lawer o awgrymiadau diddorol hefyd ar sut y gellid gwella’r Sgwâr megis mwy o seddi, planhigfeydd mwy deniadol, canopi pob tywydd ac ar ddefnyddiau newydd fel marchnadoedd bwyd achlysurol, marchnadoedd hen bethau a ffeiri. Cafwyd awgrymiadau hefyd i adolygu’r trefniadau parcio yn y Sgwâr er mwyn galluogi’r rhai sydd â phroblemau symudedd i gael mynediad hawdd i’r siopau. Y prif reswm dros wrthwynebu, ymhlith y rhai nad oeddent yn cefnogi’r cyfyngiadau presennol, oedd y gallu i barcio’n agos i’r siopau, yn enwedig ar gyfer pobl sydd â phroblemau symudedd. Cadarnhaodd y mwyafrif, 57%, o’r ymatebwyr eu bod yn teithio i’r Sgwâr ar droed o’i gymharu â 36% yn teithio mewn car.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Seilwaith:  “Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau’r arolwg.  O ganlyniad i’r adborth hwn a gafwyd, bydd Cyngor Sir Fynwy yn cadw’r trefniadau presennol ar waith a byddant yn cysylltu ar wahân â’r busnesau yn y Sgwâr sydd â seddi allanol i drafod ac adnewyddu cytundebau trwyddedu. Yn y tymor hwy, byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i baratoi gwahanol opsiynau dylunio ar gyfer y Sgwâr a fydd yn ceisio darparu ar gyfer llawer o’r awgrymiadau a gafwyd drwy’r ymgynghoriad, tra’n parchu amgylchedd hanesyddol y Sgwâr.”

Dywedodd yr Aelod Ward dros Fagwyr, y Cynghorydd Frances Taylor: “Mae cadw ardal fechan o’r Sgwâr yn ddi-draffig wedi helpu busnesau i fasnachu’n ddiogel wrth reoli risg Covid-19. Mae hefyd wedi helpu i greu bywiogrwydd ac egni yn Sgwâr Magwyr ac rydym wedi bod yn ffodus i weld cefnogaeth gymunedol i’n siopau a’n gwasanaethau newydd a phresennol.  Rwy’n gwybod bod y Sgwâr wedi bod yn achubiaeth i lawer o bobl.  Edrychaf ymlaen at gydweithio i ystyried sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’r gofod yn y tymor hir, gan barchu’r amgylchedd hanesyddol a dod â budd i bobl leol a’n busnesau lleol.”