Skip to Main Content

Mae menyw o Sir Fynwy wedi disgrifio sut y gwnaeth cynllun atgyfeirio ymarfer a weithredir gan MonLife ei helpu i newid ei bywyd yn dilyn cyflwr iechyd difrifol sydd wedi ei rhoi mewn coma a ysgogwyd am gyfnod o dair wythnos.

Cafodd Sheila Viner, 65 oed, ei hatgyfeirio i’r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Ymarfer (NERS) yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent ar ôl cael ei derbyn i ofal dwys a threulio dros 11 wythnos yn yr ysbyty yn 2020. Mae’r NERS, sy’n gweithredu ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol, yn rhaglen ymyriad iechyd seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynnwys gweithgaredd corfforol a newid ymddygiad i gefnogi pobl i wella eu hiechyd a’u llesiant.

Ymunodd Sheila gyda chynllun MonLife yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent yn dilyn cyngor gan ei ffisiotherapydd. Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd Sheila ei bod wedi gweld budd i’w hiechyd corfforol a’i bod hefyd wedi helpu i gynyddu ei hyder.

“Cysylltodd Claire, sy’n trefnu’r dosbarthiadau â fi. Cawsom sgwrs gyfeillgar am fy mhroblemau iechyd, sut y gall ymarfer fy helpu gyda fy iechyd corfforol a’r hyn yr hoffwn ei gyflawni i wella fy mywyd dydd-i-ddydd. Roedd yr ymarferion i gyd ar wahanol lefelau o iechyd a ffitrwydd ac roeddent yn llawer o hwyl.

“Roedd y dosbarthiadau o help enfawr i mi. Rwyf wedi magu nerth yn fy mreichiau a fy nghoesau a bu gwelliant mawr yn fy symudedd. Gallaf yn awr gerdded heb ffon y rhan fwyaf o’r amser a gallaf sefyll i goginio fy mhrydau bwyd a theisennau. Gallaf fynd i siopa ar ben fy hun gan fod fy hyder yn llawer gwell.”

Rhwng 2019 a 2020 derbyniodd cynllun atgyfeirio MonLife dros 1200 atgyfeiriad, gyda 70% ohonynt yn dod drwy lwybr generig NERs. O’r holl atgyfeiriadau, gallodd 99% o bobl gynyddu eu gweithgaredd gan arwain at i 50% brofi pwysedd gwaed is, 61% yn cynyddu eu ffitrwydd a 46% yn gostwng eu BMI.

Cafodd dosbarthiadau wyneb-i-wyneb eu hatal yn ystod y pandemig ond fe wnaethant ailddechrau ym mis Medi 2021 yng Nghas-gwent, Cil-y-coed, Trefynwy gyda’r Fenni yn dechrau’n ôl ar 10 Ionawr.

I Sheila roedd dychwelyd i’r dosbarthiadau hefyd yn golygu cyfle i gwrdd â phobl newydd. Ychwanegodd: “Rwyf wedi ennill cymaint o’r dosbarthiadau hyn, mae fy iechyd a ffitrwydd wedi gwella cymaint dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac mae hyn wedi fy helpu gyda bywyd o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd wedi cwrdd â chynifer o bobl hyfryd o’r un anian ac rwy’n edrych ymlaen at fy nosbarthiadau bob wythnos.”

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am MonLife: “Dydyn ni byth yn gwir yn deall faint o effaith y gall cynlluniau effaith fel y cynllun atgyfeirio ymarfer ei wneud tan y glywed straeon fel Sheila. I lawer o bobl eraill yn ei sefyllfa, gall gwneud unrhyw fath o weithgaredd corfforol yn dilyn cyflwr iechyd difrifol godi braw ar rywun a’u llethu. Nod y cynllun hwn yw cefnogi pobl drwy’r cyfnod heriol hwn ac yn y pen draw maent yn helpu ar eu taith i adferiad. Fel Sheila, mae’r cynllun hwn nid yn unig yn cynorthwyo adferiad corfforol ond mae’n cael effaith enfawr ar iechyd meddwl a hyder. Os ydych chi fel Sheila wedi cael cyflwr iechyd neu anaf newid bywyd, dewch i siarad gyda’n cynghorwyr neu’ch meddygol i gael mynediad i’r gwasanaeth gwych hwn.”Mae pobl a atgyfeirir i’r cynllun yn cael mynediad i ystafelloedd ffitrwydd a phwll nofio eu canolfan iechyd leol, mynediad i bob dosbarth NERS/Fit4Life, ymgynghoriadau cynnydd 4, 16 a 52 wythnos a bag offer am ddim. Mae’r cynllun yn costio £16 y mis a gellir cael mynediad iddo drwy gysylltu â Chydlynydd Atgyfeirio Ymarfer MonLife ar 01633 644800 neu eu hatgyfeirio gan feddyg teulu/nyrs ymarfer, ffisiotherapydd neu ddietegydd