Skip to Main Content

Dros yr wythnos nesaf mae Cyngor Sir Fynwy yn lansio ymgyrch ‘Materion Arian’ newydd sy’n tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n wynebu pryderon ariannol. Dyfynnir yn aml bod y mwyafrif o aelwydydd ddim mwy na dau neu dri siec cyflog i ffwrdd o brofi anawsterau ariannol, ac mae lefelau dyled ledled y DU wedi bod yn cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Mewn erthygl ddiweddar* dyfynnwyd bod gan aelwyd gyfartalog y DU bellach £2,805 ar gyfartaledd dim ond mewn dyled cardiau credyd. Gall newid mewn amgylchiadau arwain at unrhyw aelwyd i ddechrau teimlo’r pwysau.

Ar ben hyn, mae pandemig Covid-19 wedi dod â llawer o newid i’n bywydau – mae wedi bod yn gyfnod pryderus i gynifer, sydd wedi gwaethygu os ydych wedi bod yn delio â phryderon am eich incwm neu wedi cael anhawster talu eich biliau neu eich rhent/morgais. Ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael i chi.  Gan weithio ochr yn ochr â Chyngor ar Bopeth Sir Fynwy, Mind Sir Fynwy, Undeb Credyd Gateway, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Pobl, Melin, cynghorau tref ac ystod eang o sefydliadau eraill, nod Cyngor Sir Fynwy yw ei gwneud yn haws cymryd y cam cyntaf i geisio cymorth.

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar y cymorth sydd ar gael i helpu gydag arian, bwyd, biliau cyfleustodau, tai, iechyd meddwl, a llawer mwy o feysydd cysylltiedig ar www.monmouthshire.gov.uk/cy/materion-arian/.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Les Cymunedol: “Gall pryderon ariannol effeithio ar unrhyw un, beth bynnag fo’ch amgylchiadau, ond y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw i geisio cyngor cyn gynted â phosibl. Gall cymorth cynnar atal sefyllfa dros dro rhag dod yn broblem hirdymor.  Ond, mae’n bwysig pwysleisio hefyd nad yw byth yn rhy hwyr i geisio cymorth. 

“Mae mwy o gefnogaeth ar gael nag y mae pobl yn ei sylweddoli ond gall darganfod beth all helpu eich anghenion sefyllfa unigol fod yn her pan fyddwch eisoes yn poeni ac o dan bwysau,” ychwanegodd y Cynghorydd Dymock. “Mae’r ymgyrch Materion Arian wedi rhoi ystod eang o help o dan un to rhithwir drwy ein gwefan – www.monmouthshire.gov.uk/cy/materion-arian/ – ac mae ein staff yn y Ganolfan Gyswllt hefyd ar gael ar 01633 644644 i’ch cychwyn ar y trywydd iawn i ddod o hyd i’r cymorth cywir. Os ydych yn byw ger y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy neu Frynbuga gallwch hefyd alw heibio i’r Hybiau Cymunedol a bydd rhywun yn gallu gweithio gyda chi i ganfod pa gymorth sydd ar gael. Anaml y bydd pryderon ariannol yn diflannu ar eu pennau eu hunain, felly byddwn yn gofyn i unrhyw un sy’n darllen hwn ac yn meddwl y gallai fod angen cefnogaeth arnynt i gysylltu â ni; gall ein tîm helpu. “

Cyngor ar Bopeth Sir Fynwy yw un o’r prif bartneriaid yn yr ymgyrch hon a gellir cysylltu â nhw’n uniongyrchol ar 0800 702 2020.  Yn ystod mis Ionawr, bydd aelwydydd ledled Sir Fynwy yn derbyn taflen yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael, tra bydd llawer o bapurau lleol, gan gynnwys y South Wales Argus a’r Monmouthshire Beacon, a Sunshine Radio yn cynnal hysbysebion i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.

Ffynhonnell: * themoneycharity.org.uk/money-statistics/