Skip to Main Content

Mae newyddion am effaith bryderus Newid yn yr Hinsawdd wedi gadael llawer o bobl yn meddwl beth y gallant ei wneud i wneud gwahaniaeth. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac mae newydd gyhoeddi cwrs hyfforddi am ddim newydd o’r enw ‘Llythrennedd Carbon’ ar gyfer cynghorau cymunedol/cynrychiolwyr adeiladau ac ar gyfer trigolion Sir Fynwy a rhannau gwledig Casnewydd.

Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn rhaglen hyfforddiant a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd ac yn helpu unigolion a sefydliadau i wneud newidiadau i leihau allyriadau carbon. Ar gyfartaledd, mae unigolion sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn lleihau eu hallyriadau gan 5-15%.

Bydd yr hyfforddiant, sydd wedi’i anelu at gynghorau tref a chymunedol, adeiladau cymunedol a thrigolion, ar gael o’r mis hwn drwy fis Chwefror a mis Mawrth 2022. Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei ariannu drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.    

Dangosodd adborth gan gyfranogwyr blaenorol fod y rhai a gymerodd ran yn ei chael yn ddefnyddiol iawn deall camau ymarferol y gallant eu cymryd i leihau eu hallyriadau carbon.   Dywedodd un cyfranogwr:  “Gorffennais fy nghwrs llythrennedd carbon yr wythnos hon, roedd yn syniadau gwych iawn ar gyfer y cartref a’r gwaith, cyfle gwych i rwydweithio”.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n bwysig iawn bod pobl yn sylweddoli bod gweithredoedd unigol yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran newid yn yr hinsawdd. Rydym yn falch iawn bod gennym yr arian i allu cynnig hyfforddiant rhagorol sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac sy’n ysgogi’r meddwl i drigolion lleol. Yn ogystal â helpu i ddeall gwyddoniaeth a graddfa’r broblem, mae’r hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn canolbwyntio ar y camau y gall unigolion eu cymryd gartref, yn eu cymunedau ac yn eu gweithle i leihau carbon.”

Mae darparu hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn Sir Fynwy yn rhan bwysig o Gynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd y cyngor. Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu, ewch i Hyfforddiant Llythrennedd Carbon am Ddim – Cynnal Cymru – Sustain Wales i archebu eich lle cyn gynted â phosibl.

  • Mae’r rhaglen hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn rhan o Gynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd Cyngor Sir Fynwy.   Mae rhagor o fanylion am y Cynllun Gweithredu i’w gweld yn yr adroddiad i’r Cyngor ar gyfer y 4ydd Tachwedd 2021 yma: https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=4728
  • Mae rhywfaint o’r cynnydd tuag at fersiwn gyntaf y Cynllun Gweithredu ar argyfwng yn yr Hinsawdd wedi’i grynhoi yn y ffeithlun isod: