Skip to Main Content
Stiwdio sbin

Yn dilyn ei gwaith adnewyddu gwerth £1.7m, mae canolfan hamdden y Fenni wedi agor ei drysau i’r cyhoedd, gan gynnig llu o offer newydd a chyfleusterau hamdden modern.

Mae adnewyddu Canolfan Hamdden y Fenni, a agorodd ar 4 Ionawr 2022, wedi creu canolbwynt lles dros y llawr cyntaf i greu cyfleusterau hamdden modern i’r gymuned leol, gan helpu i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd.

Mae’r cyfleusterau newydd yn cynnwys:

  • Ystafell Ffitrwydd Estynedig
  • Stiwdio Ymarfer Grŵp Pwrpasol
  • Stiwdio Sbin
  • Cyfleusterau Newid Ffitrwydd Newydd
  • Cynnig Gwerthu Coffi Llawr Gwaelod

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, cynghorir yr Aelodau y bydd y pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden y Fenni ar gau yn ystod mis Ionawr.  Mae gwaith ymchwilio yn cael ei wneud a bydd diweddariadau ar gael drwy wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol MonLife yn fuan.

Mae’r datblygiad hwn yn dilyn cwblhau’r prosiect llwyddiannus yng nghanolfan hamdden Trefynwy, a gwblhawyd yn 2019. Mae aelodau etholedig Cyngor Sir Fynwy wedi datgan eu hymrwymiad i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden ar draws ein sir a’u datblygu er mwyn cefnogi iechyd a lles ein dinasyddion. Bydd y buddsoddiad parhaus i gyfleusterau hamdden Sir Fynwy yn cael effaith sylweddol ar les nid yn unig ar hyn o bryd, ond hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Les Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol:  “Mae’n hynod o foddhaus gweld y drysau’n agor ar y prosiect cyffrous hwn.  Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden a’u datblygu ar draws ein sir, sy’n cael effaith mor gadarnhaol nid yn unig i’n trigolion presennol, ond i genedlaethau’r dyfodol hefyd.  Mae gweld y cyfleusterau anhygoel yn dangos pa mor galed mae MonLife wedi gweithio.  Diolch i bawb am eich gwaith caled parhaus, mae hyn yn ffordd wych o ddechrau 2022.”

I ddathlu ei agoriad, mae MonLife Active yn cynnig cytundeb aelodaeth, lle gallai aelodau gael aelodaeth 12 mis am bris 9, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Byddwch yn Rhyfeddol – Monlife