Skip to Main Content

Yn dilyn y cam cyntaf o’r ymgynghoriad Teithio Llesol ar gyfer llwybrau seiclo a cherdded arfaethedig ar hyd Stryd Monnow y llynedd, roedd Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cyfanswm o 561 o ymatebion i’r cam cyntaf yma fel rhan o arolwg ar-lein. Mae’r adborth wedi helpu llywio’r cam cyntaf o dri cham a fydd yn ein helpu ni ddewis y cynllun arfaethedig terfynol.    

Roedd y cam cyntaf yn cynnwys yr opsiynau yma:

  • Opsiwn 1: caniatáu’r traffig i deithio unffordd mewn cyfeiriad de-orllewinol yn unig, llwybr beicio neilltuedig ar gyfer seiclwyr sydd yn teithio mewn cyfeiriad gogledd-ddwyreiniol a throedffyrdd sydd wedi eu lledaenu.
  • Opsiwn 2: cynnal llif traffig dwy ffordd,  llwybr beicio neilltuedig ar gyfer seiclwyr sydd yn teithio mewn cyfeiriad gogledd-ddwyreiniol a throedffordd sydd wedi ei lledaenu.
  • Opsiwn 3: Gwella cyflwr y droedffordd a’r lôn gerbydau heb unrhyw newidiadau i’r  cynllun cyfredol.
  • Opsiwn 4A: Yn ychwanegol at Opsiwn 1, darparu  llwybr beicio amgen a throedffordd o Stryd Monnow, drwy Feysydd Chippenham ac i Stryd Chippenhamgate.
  • Opsiwn 4B: Yn ychwanegol at Opsiwn 2, darparu  llwybr beicio amgen a throedffordd o Stryd Monnow, drwy Feysydd Chippenham ac i Stryd Chippenhamgate

Roedd Opsiynau 1, 2 4A a 4B yn cynnig newidiadau sylweddol, yn enwedig gwelliannau penodol ar gyfer cerddwyr a seiclwyr – ac roedd y rhan fwyaf o unigolion a ymatebodd o blaid un o’r opsiynau yma yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad.  Fodd bynnag, yr opsiwn system unffordd (Opsiwn 1) oedd y cynnig lleiaf  poblogaidd ac roedd wedi derbyn adborth negatif  gan drigolion a busnesau pan roddwyd cynnig ar hyn yn 2020. Nid yw’r llwybr seiclo a’r  droedffordd amgen sydd yn rhan o opsiynau  4A a 4B yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ac felly, rydym wedi tynnu’r cynigion yma er mwyn osgoi unrhyw oedi  gyda’r newidiadau sydd i’w gwneud ar Stryd  Monnow.

Yn sgil y rhesymau yma, mae Cyngor Sir Fynwy yn ffocysu yn rownd dau o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Opsiwn 2, sydd yn cynnal llif traffig dwy ffordd tra’n cynnal  darpariaeth ar gyfer cerddwyr a seiclwyr. Gan fod ail gam yr ymgynghoriad wedi dechrau, rydym yn gofyn i drigolion a busnesau i rannu eu barn unwaith eto ar y cynigion yma. Bydd y llwybr arfaethedig yn mynd ar hyd Stryd Monnow o Sgwâr Agincourt ac yn gwneud defnydd o’r bont dros yr afon. Bydd yn cysylltu gyda llwybr Teithio Llesol sydd eisoes yn bodoli ac yn dechrau ar Lôn Williams Field oddi ar Heol Wonastow, Overmonnow.   

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu’r Cyngor i gynnal  astudiaeth ddichonoldeb ers yn gynnar ym Mis Rhagfyr 2021 er mwyn penderfynu ar y cynllun gorau. Mae’r astudiaeth, sydd i’w chynnal tan fis Medi 2022, yn cynnwys cyfri’r traffig, astudiaethau o’r defnydd a wneir o’r heol, asesiadau diogelwch ac arolygon  topograffig a data ar geir, patrymau cerdded a seiclo, sydd oll yn cael eu recordio gan synwyryddion a chamerâu ar hyd y llwybr arfaethedig. Mae’r rhain yn nodi sŵn a chyflymder cerbydau, nifer y cerddwyr a seiclwyr, unrhyw ddamweiniau agos a gwrthdaro posib rhwng cerddwyr, seiclwyr a cherbydau. 

Mae trigolion a busnesau yn medru rhannu eu barn tan 16eg Chwefror 2022 ar y cynigion sydd yn Opsiwn 2. Am fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad yma, ewch i  https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/stryd-monnow/