Skip to Main Content

Mae Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Richard John, wedi mynegi ei ddiolchgarwch  am y caredigrwydd a’r ysbryd cymunedol sydd wedi eu dangos gan drigolion Sir Fynwy wrth i ni ddynesu at y Nadolig, gan ganmol y gefnogaeth y maent wedi dangos tuag at y mesurau sydd yn helpu mynd i’r afael gyda’r pandemig a’r gwaith a wneir ganb yr holl weithwyr rhengflaen.   

“Wrth i ni ddynesu at y Nadolig, rydym yn edrych ymlaen at fwynhau treulio amser gyda’n hanwyliaid, ac yn meddwl am y rhai na sydd yn medru bod gyda ni. I rai, dyma’r Nadolig cyntaf heb anwylyd yn sgil profedigaeth. Mae’n gyfle i ni feddwl am y rhai sydd yn cael trafferth ymdopi yn ystod y cyfnod hwn o’r flwyddyn gan ddangos i bawb o’n cwmpas faint ydym yn eu gwerthfawrogi.  Yn Sir Fynwy, mae gennym sir sydd yn cynnwys pobl hynod garedig a thosturiol. Mae ein Hapêl Nadolig  wedi derbyn ymateb anhygoel gan drigolion Sir Fynwy unwaith eto, sydd wedi dangos cryn haelioni yn helpu ni ddarparu rhoddion i blant a fyddai fel arall wedi profi Nadolig gwahanol iawn.   

“Bydd ein timau rhengflaen, gan gynnwys ein gweithwyr ailgylchu a gwastraff a’n gweithwyr gofal, yn gweithio drwy gydol y gwyliau, gan sicrhau bod y sawl sydd angen cymorth yn y gymuned yn derbyn y cymorth hwnnw’n ddi-dor.  Hoffem dalu teyrnged i bawb, yn enwedig staff y gwasanaethau brys a’r GIG, sydd yn gweithio’n ddiflino ar y rhengflaen ac yn parhau i wneud gwahaniaeth.   

“Wrth i ni ysgrifennu hwn, mae yna bryder cynyddol ar draws y DU a’r byd am yr amrywiolyn  Omicron newydd o’r feirws Covid-19.  Tra’n bod yn gwybod fod yr amrywiolyn newydd yma yn fwy trosglwyddadwy na’r amrywiolyn Delta sydd yn dominyddu, rydym dal yn ansicr ynglŷn â pha mor ddifrifol ydyw. Y peth gorau y mae modd i bawb ohonom i wneud, er mwyn eu hunain a’r gymuned, yw parhau i wisgo mygydau pan mewn llefydd cyhoeddus, a manteisio ar y pigiad atgyfnerthu a dilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os ydych yn bwriadu cwrdd â ffrindiau a theulu, hoffem ofyn eich bod yn cymryd  prawf llif unffordd o flaen llaw  fel ein bod oll yn dod â’n cwmnïaeth i’r digwyddiadau yma, nid Covid-19.

“Rydym yn ddiolchgar fod Sir Fynwy yn meddu ar un o’r cyfraddau uchaf o ran y nifer o bobl sydd wedi derbyn brechlyn, ond mae rhai trigolion – yn bennaf dynion yn eu hugeiniau a’u tridegau a rhai menywod beichiog – dal heb dderbyn brechlyn. Mae pawb ohonom yn medru chwarae ein rhan drwy annog ffrindiau a theulu i gael y brechlyn pan eu bod yn cael cynnig oherwydd bydd hyn yn eu diogelu hwy a’u hanwyliaid y gaeaf hwn.  Dyma’r ffordd orau i ni ddelio gyda’r cyfnod anodd hwn.  

“Hoffem ddiolch i drigolion Sir Fynwy am bob dim y maent yn gwneud er mwyn cadw ein cymunedau yn ddiogel. Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddymuno Nadolig diogel a heddychlon i drigolion gan obeithio am amser gwell yn  2022.”