Skip to Main Content

Y tymor nadolig hwn, gofynnir i ni i gyd feddwl am roi’r rhodd o garedigrwydd ac i ystyried rhoi i apêl Dymuniadau Nadolig Sir Fynwy. Sefydlwyd yr apêl flynyddol, a drefnwyd gan dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy, er budd plant sy’n agored i niwed, plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, er mwyn helpu i ddarparu rhoddion o bob maint, gan gynnwys pethau ymolchi a cholur ar gyfer plant a phobl ifanc hŷn.

Y llynedd roedd caredigrwydd pobl ledled y sir wedi syfrdanu Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Sir Fynwy. Cododd Apêl Dymuniadau’r Nadolig 2020 dros £7,000 i helpu i ddod â hwyl yr ŵyl i dros 250 o blant, pobl ifanc a phobl sy’n gadael gofal yn Sir Fynwy. Mae tîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd y gymuned leol i wneud unrhyw rodd ariannol y maent yn teimlo y gallant wneud er mwyn helpu i ddod â rhywfaint o hud a lledrith Nadoligaidd i’r gymuned y Nadolig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:  “Mae tymor yr ŵyl yn amser i ni i gyd feddwl am bobl eraill, yn enwedig plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.  Dyna pam mae apêl Dymuniadau’r Nadolig eleni’r un mor bwysig ag y bu erioed.  Mae’n gyfle gwych i sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn teimlo’r un mor arbennig â phawb arall. Rwy’n gwybod bod amseroedd yn anodd, ond os gallwch sbario hyd yn oed swm bach, gwnewch hynny – byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at yr apêl wneud hynny drwy ymweld â’n tudalen we www.monmouthshire.gov.uk/christmas-wishes neu ffoniwch 014633 644644 ac yna opsiwn 5 am gymorth.