Skip to Main Content

Mae cynlluniau cymunedol yn Sir Fynwy wedi derbyn hwb diolch i gadarnhad cyllid gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y corff cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Fel canlyniad, mae Cyngor Sir Fynwy a GAVO yn lansio cynllun newydd o’r enw Byddwch Gymuned a Mwy, sydd wedi ei anelu at grwpiau a sefydliadau graddfa fach sy’n dymuno peilota prosiectau newydd, cynyddu maint prosiectau presennol a threialu syniadau newydd.

Bydd dau gylch cyllid ar gael a’r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau monitro a chyllid yw dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021 (cylch cyntaf) a dydd Llun 14 Chwefror 2022 (ail gylch). Mae gan brosiect Byddwch Gymuned a Mwy dri phrif linyn y gellir ei cyllido: Mentora, Cyllid a Hyfforddiant.

O fewn y llinyn mentora mae cyfleoedd ar gyfer tua wyth prosiect i gael mynediad i gynllun mentora, yn cynnwys hyfforddiant, gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol am gyfnod penodol, i’w helpu i gyflawni eu nodau. Caiff grwpiau eu paru gyda gweithiwr proffesiynol o’r sector gwirfoddol, cyhoeddus neu breifat, sydd â’r sgiliau a’r arbenigedd priodol i gefnogi eu prosiect. Gall prosiectau wneud cais am y costau sy’n gysylltiedig gyda datblygu eu cynlluniau a chaiff costau eu talu ar eu rhan.

Mae gan linyn cyllid y prosiect hwn £15,000 ar gael ar gyfer tua deg prosiect i wneud pryniadau ar eu rhan er mwyn treialu syniadau newydd neu ehangu eu prosiect presennol. Gall prosiectau wneud cais am hyd at £2,500. Gallant gyllido pethau fel llogi safleoedd, offer, deunyddiau, hyfforddiant arbenigol, yswiriant a thechnoleg.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Gymuned, Llesiant a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Pan ddaw i hyfforddiant, mae gan Byddwch Gymuned a Mwy gyfanswm o £10,000 ar gael i greu adnoddau hyfforddiant digidol fydd am ddim i’r gymuned. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn clywed gan grwpiau cymunedol pa hyfforddiant yr hoffent i ni ei darparu – gall hyn gynnwys ymwybyddiaeth iechyd meddwl, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich gwaith cymunedol, arwain gwirfoddolwyr eraill, iechyd a diogelwch, hylendid bwyd, a llawer mwy. Gall wirioneddol gael ei deilwra i anghenion pob grŵp a phrosiect cymunedol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu cyn gynted ag sydd modd.”

Mae Cyngor Sir Fynwy a GAVO hefyd wedi gwneud cais i bobl leol fyddai â diddordeb mewn ymuno â Phanel Cymunedol, fydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau ar geisiadau cyllid ar gyfer costau prosiect. Yn ddelfrydol, dau o bobl ym mhob ardal Rhwydwaith Gymunedol, er enghraifft Brynbuga, Cil-y-coed a Glannau Hafren, Cas-gwent a’r Fenni (a’r ardaloedd o amgylch). Maent hefyd yn edrych am unigolion medrus o bob sector a chefndir, i weithredu fel mentoriaid i grwpiau a sefydlogiadau sy’n cymryd rhan yn y cynllun mentora.

“Hoffem hefyd i grwpiau a sefydliadau bach a allai fod â syniad newydd ar gyfer datblygu neu ehangu, i gymryd rhan yn y cynllun mentora o fewn y prosiect newydd hwn. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi grwpiau sy’n creu cymunedau cryfach, cefnogi pobl fregus a’r rhai sydd eisiau gwneud cysylltiadau cryfach gyda iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – sydd i gyd yn hollol anhygoel,” meddai’r Cyng. Dymock.

Os ydych yn cymryd rhan mewn grŵp neu brosiect cymunedol ac yr hoffech fwy o wybodaeth a phecyn cais ar gyfer mentora a chyllid, cysylltwch â Fred Weston (fredweston@monmouthshire.gov.uk; 07890 559 566) neu Joanne Gillard (joanne.gillard@gavo.org.uk; 07554 418086).