Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau cyllid i gefnogi adferiad parhaus ein canol trefi yn dilyn y pandemig. Gwahoddir perchnogion busnes yng nghanol trefi y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga i wneud cais am gyllid i greu gofodau masnachu allanol.

Mae’r Grant Addasu Awyr Agored Canol Trefi – a gyflwynwyd y llynedd – yn cynnig cyfle i fusnesau i sicrhau cyllid i dalu am hyd at 70% o gost prosiect arfaethedig busnes (hyd at uchafswm o £8,000). Mae’r cylch diweddaraf hwn o gyllid yn gyfyngedig a dim ond yn 2021-2022 y bydd ar gael, felly gofynnir i fusnesau gysylltu â Thîm Adfywio Cyngor Sir Fynwy (MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk; 01633 644644) cyn gynted ag sy’n bosibl i drafod os ydynt yn gymwys.

Wedi’i gyllido drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd y grant yn galluogi busnesau i fuddsoddi mewn gwelliannau allanol ac offer tebyg i seddi, byrddau, adlenni, chlwydi caffe, goleuadau a gwresogyddion awyr agored.

Er y disgwylir y bydd y cynllun grant yn apelio’n bennaf i fusnesau lletygarwch, gwahoddir busnesau eraill yng nghanol trefi sy’n dymuno creu neu wella gofod masnachu awyr agored i drafod eu cynigion gyda swyddogion Cyngor Sir Fynwy.

Bydd angen i ymgeiswyr ateb y meini prawf cymhwyster sydd ar gael yn https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/grant-addasu-canol-trefi-covid-19/ Er mwyn cyflwyno cais, bydd angen i fusnesau ddangos fod eu cynigion o safon digon uchel, yn cydymffurfio gyda’r gofynion statudol a bod ganddynt drwydded i fasnachu yn y gofod a ddynodwyd ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer dibenion o’r fath.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n newyddion gwych y gallwn gynnig y gefnogaeth hon eto. Ym mlwyddyn ariannol 2020-2021 fe wnaeth y cynllun grant hwn helpu mwy na 40 busnes yn ein pum prif dref gyda £215,000 wedi’i ddarparu. Fe wnaeth busnesau brynu byrddau a chadeiriau, parasolau, canopïau, biniau a chlwydi caffe. Mae’r masnachu awyr agored hwn wedi helpu busnesau unigol mewn blwyddyn anodd o fasnachu a hefyd wedi cyfrannu at fywiogrwydd ac egni canol ein trefi.

“Fel gyda’r ceisiadau llwyddiannus y llynedd, dylai unrhyw fesurau a gyflwynir fel canlyniad i gyllid grant llwyddiannus fod o fudd i’r busnes a hefyd helpu i wella golwg ein stryd fawr, gan greu amgylchedd masnachu a diwylliant caffe croesawgar. Nid mesurau tymor byr yw’r rhain. Drwy fuddsoddi mewn seddi, tybiau blodau, adlenni ac ati deniadol a safon uchel y gobeithir y bydd manteision y cynllun yn parhau’n hir ac yn helpu i wella canol ein trefi ymhellach.”

Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gael yn  https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/grant-addasu-canol-trefi-covid-19/. Mae’r holl gyllid yn amodol ar argaeledd.