Skip to Main Content

Ar gyfer Plant mewn Angen y BBC eleni, mae Tîm Mynediad Cefn Gwlad Cyngor Sir Fynwy wedi gadael eu desgiau a mentro o amgylch y sir ar gyfer eu cyfarfodydd tîm, gan godi arian at yr achosion da y mae’r elusen yn eu cefnogi ar yr un pryd.

Pennwyd yr her gan y Cyngor i alluogi cymaint o gydweithwyr â phosibl i deimlo y gallant gymryd rhan yn ymgyrch Mynd am Dro Plant Mewn Angen eleni, gan wella eu lles yn ogystal â chodi arian ar gyfer yr elusen. Mae pobl ddi-rif wedi bod yn gweithio gartref o flaen eu cyfrifiaduron gwaith dros y flwyddyn a hanner diwethaf, felly mae cyflwyno ymgyrch Mynd am Dro Plant Mewn Angen wedi rhoi’r cymhelliant perffaith i Dîm Mynediad Cefn Gwlad y cyngor gynnal dros 100 o deithiau cerdded a sgyrsiau yn ystod y ddeufis diwethaf.

Mae mynd am dro yn galluogi gweithwyr i wneud gwaith mewn ffordd wahanol, gan ddarparu dull gwerth chweil i’r Tîm Mynediad Cefn Gwlad ymgymryd â rhywfaint o waith adeiladu tîm. Maent wedi codi bron £200 hyd yn hyn, gyda rhoddion yn dal i ddod i mewn ac yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg: “Da iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at ‘Fynd am Dro ar gyfer Plant mewn Angen’ eleni. Mae pobl wedi parhau i roi a chymryd rhan sydd wedi dod â phositifrwydd mawr ei angen i ni gyd wrth i ni ddod at ddiwedd 2021.  Mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r Tîm Mynediad Cefn Gwlad wedi bod o gwmpas y lle – bydd yn cael effaith wych ar les pawb, ac i gyd ar gyfer achos anhygoel.”

Mae’r cyngor yn annog trigolion sy’n gweithio gartref i flaenoriaethu camu i ffwrdd o’r sgriniau pan allant a mynd allan i fwynhau cefn gwlad hardd Sir Fynwy.  Gall dim ond 12 munud o gerdded ddarparu manteision iechyd mawr, yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae teithiau cerdded a sgyrsiau awyr agored hefyd yn cael cyfle i roi persbectif newydd i chi ac maent yn arbennig o dda ar gyfer datrys problemau a meddwl yn greadigol. 

Os hoffech gyfrannu at godwr arian gwych y Tîm Mynediad Cefn Gwlad, dilynwch y ddolen hon a rhowch yr hyn y gallwch: Mae MonLife Countryside Access yn codi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen (justgiving.com)