Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn lansio ymgyrch yn cyfeirio pobl sy’n dioddef caledi ariannol, problemau iechyd meddwl neu achosion eraill o bryder tuag at y cymorth sydd ar gael. Cyflwynir yr ymgyrch mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau a all roi help a chefnogaeth tebyg i Cyngor Ar Bopeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Undeb Credyd Gateway, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a Mind Sir Fynwy yn ogystal â chymdeithasau tai lleol a chynghorau tref a chymuned ar draws y sir.

Mae’r ymgyrch yn tanlinellu’r llu o gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cymorth ac yn annog pobl i geisio help a chyngor mor gynnar ag sydd modd. Mae hefyd yn pwysleisio nad yw hi byth yn rhy hwyr i ofyn am help, cyngor a chefnogaeth.

Mae’r ymgyrch yn ganlyniad y gydnabyddiaeth nad oes llawer o bobl yn gwybod faint o gymorth sydd ar gael i’r rhai a all fod mewn anawsterau ariannol, a bod y diffyg gwybodaeth yma’n rhwystr allweddol wrth gael mynediad i help. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd mewn trafferthion ariannol ond hefyd rai gyda phroblemau iechyd meddwl neu sydd angen cymorth a chyngor arall.

Mae pandemig Covid wedi gwaethygu llawer o’r materion cymdeithasol, ariannol a iechyd meddwl sy’n effeithio ar gymunedau Sir Fynwy, yn ogystal â gosod pwysau na welwyd eu tebyg ar gartrefi nad ydynt erioed o’r blaen wedi profi anawsterau ariannol. Mae hyn yn golygu fod pobl nad ydynt erioed wedi gorfod cael budd-daliadau neu fathau eraill o gymorth yn gorfod gwneud hynny am y tro cyntaf.

I helpu cymryd y cam cyntaf at gael cymorth, mae Cyngor Sir Fynwy wedi paratoi adnodd ar y we sy’n dod â chymorth gan wahanol sefydliadau ynghyd mewn un lle. Mae ar gael yn  www.monmouthshire.gov.uk/money-advice/

Yn ogystal â sefydliadau cenedlaethol fel Cyngor Ar Bopeth a Turn2Us, mae’r wefan hefyd yn cynnwys manylion grwpiau a mudiadau lleol a all gynnig cymorth ymarferol a hyd yn oed grantiau bach.

Mae’r ymgyrch yn anelu i annog pobl i gymryd y camau cyntaf wrth geisio help cyn gynted ag sydd modd, gan mai dyma’r adeg pan mae fel arfer yn rhwyddaf i ddatrys problemau. Mae hefyd yn pwysleisio, fodd bynnag, nad yw sefyllfa ariannol neb byth mor wael fel na fedrir gwneud dim.

Bydd yr ymgyrch ar waith o fis Hydref ymlaen gyda digwyddiadau ymgysylltu yn eich cymuned leol, hysbysebion radio, pytiau byr yn rhoi sylw i bobl leol, posteri, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a thaflenni i drosglwyddo negeseuon drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Gyngor Sir Fynwy: “Gwyddom ei fod yn amser anodd i lawer o bobl, ond gwyddom hefyd fod pobl yn aml yn synnu faint o help sydd ar gael iddynt pan maent yn ymestyn allan. Ein neges allweddol yw gofyn am help a chyngor cyn gynted ag sydd modd – ond nad ydi hi byth yn rhy hwyr i geisio help a chymorth.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: www.monmouthshire.gov.uk/money-advice/