Skip to Main Content

Gyda dros 30 o wahanol fathau o gampau ar gael, mae digon i gadw plant a phobl ifanc yn egnïol a diddan dros hanner tymor yng Ngemau Sir Fynwy eleni. Cynhelir y digwyddiad wythnos o hyd rhwng dydd Llun 25 Hydref a dydd Gwener 29 Hydref yng nghanolfannau hamdden y sir yng Nghil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn ogystal ag Ysgol Gynradd Deri View yn y Fenni tra bo canolfan hamdden y dref yn cael ei hadnewyddu.

Wedi’u hanelu at blant rhwng pump ac 11 oed, mae Gemau Sir Fynwy yn cynnig gweithgareddau i weddu amrywiaeth o wahanol ddiddordebau a hobïau. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar ddysgu sgiliau newydd, datblygu hyder, cwrdd â phobl newydd ac, yn bwysicaf oll, gael hwyl drwy chwaraeon. Cynhelir sesiynau rhwng 8am a 5pm ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’n dilyn rhaglen lwyddiannus yn ystod yr haf pan fynychodd dros 900 o bobl ifanc, i gyd yn mynegi dymuniad i ddychwelyd ar gyfer rhaglen arall.

Mae 50 lle ar gael ym mhob safle bob dydd a chaiff rhieni eu hannog i archebu lleoedd cyn gynted ag sydd modd i’w plant er mwyn osgoi siom.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet dros MonLife ar Gyngor Sir Fynwy: “Cynhaliwyd Gemau Sir Fynwy am dros bum mlynedd a chafodd y rhaglen effaith amlwg iawn ar iechyd a lles parhaus pobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf a hanner tymor. Mae’r amrywiaeth gweithgareddau yn golygu fod plant yn cael cyfle i fwynhau a gwneud ffrindiau newydd a hefyd ddysgu sgiliau bywyd, tebyg i waith tîm. Mae lleoedd yn llenwi’n gyflym iawn ar y rhaglen ardderchog yma felly archebwch le i’ch plentyn i sicrhau nad ydynt yn colli’r cyfle i gael hanner tymor llawn hwyl”.

Mae adnewyddu ardal y pwll yn golygu nad oes nofio ar gael yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent. Mae’r gwelliannau oedd eu mawr angen yn cynnwys ailaddurno, uwchraddio gwydr yn yr ardal weld, nenfwd newydd, diweddaru goleuadau LED a gosod unedau newydd trin aer. Yn yr un modd, mae gwaith adnewyddu yng Nghanolfan Hamdden y Fenni yn golygu nad oes gweithgareddau pwll ar gael. Disgwylir y caiff y gwaith ei gwblhau yn y flwyddyn nesaf.

I archebu lle ewch i: https://www.monlife.co.uk/monactive/childrens-activities/the-monmouthshire-games/ a llenwi ffurflen ymholiad.

Bydd amgueddfeydd treftadaeth MonLife hefyd yn cynnig gweithgareddau i blant dros hanner tymor yr hydref mewn cysylltiad gyda Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. Gall plant o bob oed gael hwyl a rhannu mwynhad profi teganau a gemau traddodiadol gyda’i gilydd. Gall gwreiddiau rhai ohonynt fod mewn diddordebau syml a fwynhawyd am ganrifoedd, tra gall eraill fod yn gemau yr oedd rhieni neu eu rhieni hwythau yn eu mwynhau yn y maes chwarae neu bartïon.

Mae sesiynau yn 45 munud o hyd ac yn cychwyn am 11am, 12pm, 1pm, 12pm a 3pm yn Neuadd Sirol Trefynwy ddydd Llun 25 Hydref, a Neuadd Dril Cas-gwent ar 28 Hydref ac Amgueddfa’r Fenni y trannoeth. Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw yn www.visitmonmouthshire.com/traditional-games

Hefyd, drwy gydol Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, bydd pob amgueddfa yn cynnwys helfa Draig ar gyfer pobl ifanc.

Mae mwy o wybodaeth ar holl weithgareddau MonLife ar gael yn: www.monlifeholidayactivities.co.uk