Skip to Main Content

Gan ddechrau ddydd Sul 31 Hydref, bydd contractwyr a gyflogir gan adran Tiroedd a Glanhau Cyngor Sir Fynwy yn cwympo coed ym Mharc Bailey, y Fenni. Oherwydd pryderon am ddiogelwch, yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiadau o lorïau yn chwalu canghennau a gwendidau strwythurol yn y coed a ddynodwyd yn ystod arolygiadau diogelwch, caiff y coed coniffer (rhwng Heol Henffordd a maes parcio Morrisons) eu cwympo dros gyfnod tebygol o bedwar i bum diwrnod.

Bydd y contractwyr yn gweithio drwy’r nos i orffen y gwaith mor gyflym ag sydd modd. Er mwyn lleihau’r effaith ar draffig, caiff yr A40 wrth ymyl Morrisons ei chau yn ystod y nos, o’r gyffordd gyda Heol Henffordd i fynedfa maes parcio Morrisons rhwng 8pm a 6am dros gyfnod o dair noson o ddydd Llun 1 Tachwedd pan gaiff y coed agosaf at y ffordd eu cwympo. Gall fod angen noson ychwanegol os yw’r gwaith yn cymryd mwy o amser nag a ddisgwylir oherwydd amgylchiadau annisgwyl.

Anfonir llythyrau at holl breswylwyr ardal Parc Bailey o’r Fenni yn eu hysbysu am y gwaith, fydd angen llifoleuadau ar gyfer y cyfnod gweithio yn y nos. Caiff ardal brosesu ei gosod dros dro yn rhan isaf maes parcio Parc Bailey a chaiff yr offer mwyaf swnllyd ei ddefnyddio yn ystod y dydd.

Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys tocio coed eraill o fewn y parc i wella eu cadernid a’u hiechyd hirdymor, gan weithio o fewn y Gorchmynion Diogelu Coed presennol.  Mae Cyngor Tref y Fenni, Morrisons (sydd â safle gyferbyn â’r parc), Cyfeillion Parc Bailey, y Pwyllgor Amgylcheddol lleol ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru oll wedi cefnogi’r gwaith sydd ar y gweill, sy’n digwydd yn dilyn arolwg ecolegol ac arolwg ystlumod o’r safle.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais am gyllid i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen o blannu coed i wrthbwyso colli’r coed coniffer. Bydd y coed newydd yn cynnwys rhywogaethau cynhenid ac addurnol addas ar gyfer lleoliad hanesyddol y parc. Mae’r cais am gyllid hefyd yn cynnwys asesiad manwl a chynllun rheoli ar gyfer y coed gweddilliol, cynllun i wella’r nant sy’n rhedeg drwy’r parc a phlannu blodau gwyllt i harddu’r parc, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i fwynhau’r rhan hon o’r dref sydd yn annwyl iawn i breswylwyr lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Er ei bod yn anochel y bydd y gwaith hwn yn achosi peth ymyriad a sŵn yn yr ardal, cafodd y gwaith ei gynllunio i fod mor ystyriol ag sydd modd i’r bobl sy’n byw’n agos at Barc Bailey. Mae’r contractwyr hefyd yn gweithio i leihau ymyriad ar y ffordd brysur hon drwy’r Fenni drwy weithio ddydd a nos. Bydd hyn yn her, gan ystyried anghenion preswylwyr lleol, defnyddwyr y ffordd yn ystod y dydd a diogelwch contractwyr sy’n gweithio yn ystod y nos. Nid yw’n opsiwn gohirio’r gwaith hwn, oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch a gyda misoedd y gaeaf ar ein gwarthaf. Disgwyliwn na fydd dim mwy o ymyriad nag sy’n hollol hanfodol ac y caiff y gwaith ei orffen cyn gynted ag sydd modd. Rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn dderbyn cadarnhad maes o law am gyllid ar gyfer plannu coed o fewn Parc Bailey.”

Bydd llinell ymateb 24-awr ar gyfer unrhyw breswylwyr sy’n dymuno codi unrhyw faterion neu sydd angen rhoi adroddiad am unrhyw broblemau yn ystod y gwaith – 01633 644644.