Skip to Main Content

Mae cynllun i roi bywyd newydd i gyfleusterau cymunedol yn gwahodd perchnogion a threfnwyr i gyrchu ystod eang o gymorth a chyngor.

Mae swyddogion o Raglen Datblygu Gwledig Sir Fynwy yn cynnig cyfle i gymryd rhan ym mhrosiect Neuaddau Gyda’i Gilydd er mwyn i bobl gydweithio, gan rannu syniadau a phrofiad i helpu sicrhau bod eu cyfleusterau yn gynaliadwy.

Mae tua 80 o gyfleusterau cymunedol yn Sir Fynwy a 15 yn wardiau gwledig Casnewydd. Mae pob un yn tueddu i weithio ar ben ei hun, fel mai anaml y maent yn manteisio ar gyfleoedd i rannu eu profiadau a chyfrannu er budd cyfleusterau cymunedol cyfagos. Diben prosiect Neuaddau Gyda’i Gilydd yw i bob cyfleuster gydweithio i rannu arfer gorau a manteisio o fentrau ar y cyd tebyg i gyllid, gostwng costau ynni drwy swmpbrynu, mynediad digonol i fand eang, gwybodaeth am gydymffurfiaeth, hyfforddiant a llawer o agweddau eraill sy’n cyfrannu tuag at redeg neuadd gymunedol leol addas.

Mae swyddogion yn gofyn i berchnogion a threfnwyr neuaddau i lenwi holiadur byr i asesu’r cyfleusterau presennol a chynorthwyo pobl i ganfod y gofynion ar gyfer eu hamgylchiadau unigol.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae cyfleusterau cymunedol yn Sir Fynwy a rhannau gwledig o Gasnewydd yn asedau pwysig ym mhob ardal a wasanaethant.  Ar ôl y cyfnodau clo maith yn ystod y pandemig, bydd gan yr adeiladau hyn ran hanfodol wrth ddod â phobl ynghyd a rhoi’r gallu i gynnal digwyddiadau lleol eto.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cael mynediad i’r holiadur neu gael gwybodaeth bellach gysylltu â Lucinda James, Cydlynydd Rhaglenni Gwledig ar

lucindajames@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644779 / 07917 597793.

Daw cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer prosiect Neuaddau Gyda’i Gilydd i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2021 felly mae grŵp llywio y cynllun wedi gofyn i rai sydd â diddordeb i gysylltu cyn gynted ag sydd modd.

Derbyniodd prosiect Neuaddau Gyda’i Gilydd gyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.