Skip to Main Content

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf cynhaliwyd dwy astudiaeth ar sut y medrid gwella symudiadau traffig a theithio yn nhref Cas-gwent a’r cylch. Yn gynharach eleni cyflwynwyd yr adroddiad ail gam (a gynhyrchwyd yn defnyddio dulliau WelTAG neu WebTAG a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer datblygu a gwerthuso cynigion trafnidiaeth) i’r awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill oedd yn ymwneud â chomisiynu’r adroddiad.

Mae’r adroddiad bellach wedi ei gyhoeddi ac ar gael drwy ddilyn y ddolen hon:

Gellir cael crynodeb o’r astudiaeth ynghyd â’r prif adroddiad drwy ddilyn y ddolen. Mae mwy o ddogfennau sy’n cefnogi canfyddiadau’r astudiaeth ar gael ar gais i aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno gweld y manylion yn y dogfennau cefnogi sy’n sylfaen i’r adroddiad a’i ganfyddiadau.

Comisiynwyd yr astudiaeth ar y cyd gan awdurdodau lleol ar ddwy ochr y ffin ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill oedd â diddordeb a gafodd eu cynnwys wrth gomisiynu a datblygu’r astudiaeth.

O fewn llywodraeth leol mae hyn wedi cynnwys Cyngor Dosbarth Fforest y Ddena, Cyngor Sir Swydd Caerloyw, Cyngor Sir De Swydd Caerloyw a Chyngor Sir Fynwy. Ymysg cyrff cyhoeddus eraill, cafodd Llywodraeth Cymru a Highways England hefyd eu cynnwys wrth ddatblygu’r adroddiad.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ymgynghoriaeth ARUP ar ran yr awdurdodau lleol a’r cyrff cyhoeddus.

Mae Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent yn tynnu sylw at nifer o broblemau i gael eu trin yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ond efallai bod y broblem proffil uchaf yn ymwneud â thagfeydd traffig ar y prif briffyrdd cyhoeddus sy’n mynd drwy Gas-gwent. Mae preswylwyr lleol yn teimlo’r effaith yn nhermau anghyfleuster cyson ac, yn fwy difrifol, lygredd aer (mae’r A48 yn Rhiw Hardwick, Cas-gwent yn barth rheoli ansawdd aer) ond mae hefyd effaith ar fodurwyr sy’n teithio drwy’r ardal gan fod tagfeydd traffig cyson a maith ar wahanol adegau yn ystod y dydd.

Mae’r astudiaeth yn rhoi ac yn casglu’r wybodaeth a data cefndir ac yna’n cynnig opsiynau am ddadansoddiad pellach mwy manwl. Mae’r broses hon yn adlewyrchu gofynion WelTAG a WebTAG sydd yn eu tro yn rhoi dull strwythuredig a chadarn i ddadansoddi ac asesu problemau, opsiynau ac yn y pen draw ddatblygu datrysiadau.

Mae’r astudiaeth yn argymell fod gwaith pellach yn awr yn dilyn tri prif becyn. Cânt eu disgrifio yn fanwl yn yr adroddiad, ond dyma grynodeb ohonynt:

  1. Gwelliannau Teithio Llesol (cerdded a seiclo) – ymchwilio rheolaeth trafnidiaeth yn fanwl yn cynnwys mynediad cerbydau (yn cynnwys opsiynau creu parth cerddwyr rhan-amser), parcio ceir, gwelliannau cerdded a seiclo yn cynnwys sgyrsiau gyda rhanddeiliaid am ba welliannau sy’n rhoi’r buddion mwyaf. Bydd yn edrych ar lwybrau mewn cymunedau ar ddwy ochr y ffin, darparu blaenoriaethau gyda chostau a chyfleoedd cyllido posibl.
  2. Trafnidiaeth Gyhoeddus (bws a rheilffordd) – gwelliannau Hyb Trafnidiaeth Casnewydd a Gwelliannau Cysylltedd – datblygu opsiynau i greu hyb trafnidiaeth gyhoeddus o fewn Cas-gwent. Bydd hyn yn cynnwys dichonolrwydd gwell cyfnewidfa gyda mwy o gysylltiadau gyda gwasanaethau bws cyhoeddus a sut mae hyn yn integreiddio gyda defnyddwyr ceir (parcio, gwefru cerbydau trydan ac yn y blaen) a llwybrau teithio llesol i gynnig amgen cynaliadwy ac ymarferol yn lle defnyddio ceir.
  3. Ffordd Osgoi Cas-gwent – Mynd â’r opsiwn lefel uchel a amlinellir yn adroddiad cam 2 i astudiaeth cyn-dylunio mwy manwl yn cynnwys asesiadau traffig, astudiaethau gwerth am arian, astudiaethau amgylcheddol, cysylltu gydag ymgyngoreion statudol, rhaglen adeiladu ragarweiniol.

Caiff Pecyn 1 (teithio llesol) ei gomisiynu yn yr wythnosau nesaf, a’i gyllido drwy gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru sydd ar gael i Gyngor Sir Fynwy ynghyd â chyfraniadau posibl gan Gyngor Sir Swydd Caerloyw a Chyngor Dosbarth Fforest y Ddena (yn dibynnu ar gynigion a cytundeb y cynghorau).

Caiff Pecyn 2 (Hyb Trafnidiaeth Cas-gwent) ei gyllido gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru a chomisiynwyd yr astudiaeth yn ddiweddar i’w chynnal eleni.

Mae Pecyn 3 (Ffordd Osgoi Cas-gwent) a sut y gallai symud ymlaen i’r cam nesaf yn fwy cymhleth a byddai angen trafodaethau pellach am sut y gellid cyllido’r cynllun, pa awdurdod fedrai gymryd yr awenau ac yn y blaen.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth integredig strategol: “Mae’n galonogol fod yr holl awdurdodau lleol, adrannau llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill wedi gweithio mewn modd cadarnhaol i gyrraedd y cam hwn a bod rhai agweddau o’r astudiaeth yn barod i symud ymlaen. Fel prosiect ar draws y ffin, mae wedi profi’n llwyddiannus hyd yma er fy mod yn cydnabod yr heriau sy’n gysylltiedig â gwireddu cynigion a’u rhoi ar waith.”