Skip to Main Content

Rhoddir sylw i effaith baw cŵn yn Sir Fynwy yn dilyn diwrnod ymwybyddiaeth yn dangos sut y gall fod yn falltod ar gymunedau. Daw ar ôl i Gyngor Sir Fynwy ymuno gyda Chyngor Tref Cil-y-coed a Chyngor Cymuned Goetre Fawr i drefnu diwrnod ymwybyddiaeth o faw cŵn yng Nghil-y-coed a Chyngor Cymuned Goetre yng Nghil-y-coed a Goetre ar 14 Hydref. Yn ystod y diwrnod ymwybyddiaeth bu tîm iechyd yr amgylchedd a thimau gwastraff a glanhau strydoedd y cyngor yn siarad gyda pherchnogion cŵn, yn dosbarthu bagiau baw cŵn am ddim a gosod arwyddion i godi ymwybyddiaeth o’r mater. Mae’n dilyn lansiad llwyddiannus ymgyrch genedlaethol Cadwch Gymru’n Daclus ar faw cŵn yn gynharach y mis hwn.

Er fod naw allan o bob deg perchennog ci yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid mewn ardaloedd cyhoeddus, mae’r un allan o ddeg nad ydynt yn gwneud hynny yn cael effaith negyddol ar fannau gwyrdd a pharciau. Mae baw cŵn yn parhau i fod yn un o’r problemau amgylcheddol a adroddir amlaf a mwyaf dadleuol ac roedd y ffocws y tro hwn ar leiniau chwaraeon ac ardaloedd lle mae plant yn chwarae. Dyma’r mannau lle mae plant, pobl ifanc ac oedolion yn dod ar draws baw cŵn amlaf ac mae’n hanfodol fod pobl yn codi baw cŵn i’w atal rhag dod yn broblem iechyd cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am iechyd yr amgylchedd: “Mae angen i’n ffocws barhau ar y mater hwn wrth i adroddiadau am ddigwyddiadau barhau, yn arbennig mewn meysydd chwarae plant ac yn ein hardaloedd chwaraeon a hamdden, gan beryglu iechyd ein pobl ifanc. Mae’r dyddiau ymwybyddiaeth hyn yn rhybuddio pob perchennog ci, yn arbennig wrth i ni fynd i mewn i fisoedd tywyllach y gaeaf, am bwysigrwydd y neges syml – bagiwch a biniwch.”

Mae gan awdurdodau lleol a Heddlu Gwent rymoedd i roi rhybuddion cost sefydlog a bydd perchnogion nad ydynt yn codi baw eu ci yn wynebu dirwy o £75 yn y fan a’r lle. Os yw’r person yn gwrthod talu a bod yr achos yn mynd i’r llys, gall y troseddwr wynebu dirwy o hyd at £1,000. Mae’n rhwydd hysbysu’r cyngor am berchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid drwy: http://www.monmouthshire.gov.uk/home/streets-parking-and-transport/recycling-and-waste/dogfouling/

Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ar ôl i grwpiau a phreswylwyr lleol ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Sir Fynwy ar Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Caiff y rhain eu cyflwyno i ddiweddaru’r ffyrdd y caiff cŵn eu rheoli mewn mannau cyhoeddus, yn arbennig mewn parciau a mannau agored. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gael drwy’r ddolen hon: https://www.monmouthshire.gov.uk/public-spaces-protection-order-on-dog-controls-in-monmouthshire/ a daw i ben ar 26 Hydref. Daeth llawer o ymateb i’r ymgynghoriad i law eisoes, ond mae croeso mawr iawn i fwy o sylwadau gan bobl leol.