Skip to Main Content

Mae cyn fyfyrwyr Ysgol Cas-gwent wedi dychwelyd i’r ystafell ddosbarth i ysbrydoli unigolion i sicrhau’r dyfodol y maent ei eisiau.

Mae Ysgol Cas-gwent wedi ymuno â rhaglen gan elusen addysg genedlaethol Dyfodol yn Gyntaf sy’n helpu ysgolion gwladol a cholegau i ddatblygu rhwydweithiau cyn ddisgyblion fel y gallant ddefnyddio eu talentau a’u profiadau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf.

Bydd cyn fyfyrwyr yn dychwelyd i wirfoddoli mewn cyfarfodydd a gweithdai ysgolion, a gynlluniwyd i ysgogi disgyblion heddiw. Bydd hyn yn eu helpu ei ehangu eu gorwelion swydd a chynyddu’r cyfle o gael mynediad i’r gyrfaoedd a ddymunant, beth bynnag eu cefndir.

Mae Cas-gwent yn un o fil o ysgolion uwchradd gwladol a cholegau ar draws Prydain sydd wedi gweithio gyda Dyfodol yn Gyntaf. Gweledigaeth yr elusen yw y dylai pob ysgol wladol neu goleg fanteisio o gymuned llewyrchus a bywiog o gyn ddisgyblion sy’n helpu  wneud mwy ar gyfer dysgwyr.

Mae mwy na 260,000 o gyn-fyfyrwyr ym mhob rhan o Brydain eisoes wedi cytuno i aros mewn cysylltiad gyda’u hen ysgol. Maent yn cymell pobl ifanc fel modelau rôl gyrfa ac addysg, mentoriaid, darparwyr profiad gwaith, llywodraethwyr a chodwyr arian. Mae Ysgol Cas-gwent eisiau cysylltu â chyn-fyfyrwyr a aeth ymlaen i sicrhau llwyddiant gyrfa ac ymadawyr diweddar sydd mewn addysg bellach neu hyfforddiant ar hyn o bryd.

Dywedodd Matthew Sims, Pennaeth yr ysgol: “Fe wnaethom gofrestru ar gyfer cynllun Dyfodol yn Gyntaf yn syth.  Bydd rhwydwaith o gyn fyfyrwyr gyda’u holl brofiad gwerthfawr yn hanfodol wrth ein helpu i ehangu gorwelion swyddi disgyblion presennol a’u paratoi ar gyfer byd gwaith.”

Pan oedd yn ymweld ag Ysgol Cas-gwent, dywedodd y cyn ddisgybl a Phrif Swyddog Pobl a Llywodraethiant Cyngor Sir Fynwy: “Bu’n hollol wych dod yn ôl i Ysgol Cas-gwent lawer o flynyddoedd yn ddiweddarach, gan gysylltu gyda grŵp gwirioneddol ddiddorol o fyfyrwyr blwyddyn 11. Roedd yn wych siarad gyda rhai, yn debyg iawn i fi, nad oedd â llawer o syniad ble dymunent fynd ond roedd yn wych siarad am yr opsiynau a’r llwybrau sydd ar gael. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i ddychwelyd a gweithio’n fwy manwl gyda’r myfyrwyr hyn.”

Dywedodd Lorraine Langham, Prif Swyddog Gweithredol Dyfodol yn Gyntaf: “Mae cyn-fyfyrwyr yn dangos byd o gyfle i bobl ifanc a dyfodol a allai fod yn iawn iddyn nhw. Rydym eisiau rhoi gobaith iddynt ar gyfer y dyfodol a’r hyder a’r cymhelliant maent ei angen i lwyddo.

“Byddai’n wych pe gallai cyn ddisgyblion Cas-gwent gofrestru a rhoi’n ôl i fyfyrwyr heddiw sy’n dilyn ôl eu troed. Bydd yn rhoi’r sicrwydd y maent ei eisiau a ddaw o glywed beth a gymerodd i bobl a eisteddodd yn union yr un ystafelloedd dosbarth i wneud llwyddiant o’u bywydau mewn ystod eang o feysydd.”