Skip to Main Content

Sir Fynwy yw’r arhosfan diweddaraf ar gyfer Bws Brwydr Carbon Planet Mark wrth iddo fynd ar daith o amgylch y wlad yn y cyfnod cyn uwchgynhadledd hinsawdd COP26 y Cenhedloedd Unedig, sy’n cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig yr hydref hwn.

Arhosodd y goets trydan gyfan gwbl yn Y Fenni ddydd Mawrth 14eg Medi 2021 i dynnu sylw at ychydig o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y gymuned fusnes i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a lledaenu’r neges am bwysigrwydd sicrhau sero net. Ymunodd Riversimple, datblygwyr cerbydau hydrogen arloesol Rasa, ag aelodau taith y Bws Brwydr hefyd, i siarad am eu dyheadau ar gyfer moduro di-garbon.  Mae’n dilyn gwaith y gwneuthurwr ceir yn y DU yn Y Fenni ar ôl i’r dref gael ei dewis fel y man prawf ar gyfer eu Rasa.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu Riversimple, Fiona Spowers:  “Ein dymuniad yw dileu effaith amgylcheddol trafnidiaeth bersonol gyda char sydd nid yn unig yn hwyl i’w yrru, ond nad yw’n llosgi tanwydd ffosil ac sydd dim ond yn cynhyrchu dŵr fel cynnyrch gwastraff. Bydd Prawf Beta ein ceir yma yn y Fenni yn cynnwys aelwydydd, clybiau rhannu ceir a sefydliadau cyhoeddus fel Cyngor Sir Fynwy fel rhan o’u fflyd yn y gweithle.  Edrychwn ymlaen at rannu’r hwyl a’r pleser o yrru’r Rasa Beta o’r radd flaenaf gyda mwy o Brofwyr Beta drwy gydol y flwyddyn.”

Cyfarfu Planet Mark hefyd ag Ynni Gwent sydd wedi bod yn allweddol wrth dyfu nifer y pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan yn y sir, yn ogystal ag ymdrechion i helpu cymunedau i ddatgarboneiddio eu cyflenwad ynni. Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnig cyfle i Planet Mark siarad â chynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy am ei ymrwymiad i leihau ei allyriadau a chael cyfle i weld rhai o’r cerbydau trydan a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol fel prydau cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb dros newid yn yr hinsawdd:  “Rwy’n falch iawn o groesawu’r bws brwydr di-garbon i Sir Fynwy.   Roedd yn gyfle da i siarad am rywfaint o’r cynnydd rydym wedi’i wneud i ddatgarboneiddio ein gweithrediadau ein hunain a chlywed am rai o’r prosiectau arloesol sy’n cael eu darparu gan fusnesau mewn rhannau eraill o’r DU, y gallwn ddysgu ohonynt.”

Bydd taith Bws Brwydr Carbon Planet Mark bellach yn parhau ar ei thaith ar draws y DU dros 12 wythnos, gan derfynu yng Nglasgow ar gyfer COP26 ym mis Tachwedd.