Skip to Main Content

Mae MonLife wedi cyhoeddi rhaglen i wneud gwelliannau sydd eu mawr angen i neuadd pwll nofio Canolfan Hamdden Cas-gwent. Bydd hyn yn cynnwys ailaddurno neuadd y pwll, uwchraddio’r gwydr yn yr ardal weld, nenfwd newydd, diweddaru goleuadau LED a gosod unedau newydd trin aer.

Bydd y gwaith fydd yn dechrau ddydd Llun 25 Hydref yn golygu y bydd angen cau’r pwll. Disgwylir y bydd yn ailagor ar 4 Ionawr. Bydd gweddill y ganolfan hamdden yn parhau ar agor yn y cyfamser a bydd MonLife yn rhewi aelodaeth deiliaid cynllun Aqua yn awtomatig tra bo’r gwaith yn parhau.

Gofynnir i unrhyw aelodau MonLife sydd ag ymholiadau am ailwampio ardal y pwll anfon e-bost at: monmemberships@monmouthshire.gov.uk – yn y cyfamser, cafodd grwpiau gydag archebion ar gyfer y pwll eu hysbysu eisoes am y cau. Dylai unrhyw un gydag ymholiad cyffredinol ar y gwaith gysylltu â chepstowleisurecentre@monmouthshire.gov.uk.  Bydd MonLife hefyd yn lansio microsafle arbennig ddydd Mawrth 28 Medi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y cynllun a rhestr o gwestiynau cyffredin.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am MonLife: “Hoffwn ddiolch i ymwelwyr i Ganolfan Hamdden Cas-gwent am eu hamynedd tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo ac rwy’n falch y bydd y gwaith hwn yn rhoi gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr y ganolfan hamdden. Rwyf hefyd yn falch y bydd llawer o’r mesurau a weithredir yn arwain at wella effeithiolrwydd ynni a gostyngiad mewn allyriadau carbon.”