Skip to Main Content

Mae plant yn Sir Fynwy wedi mwynhau gwyliau haf llawn hwyl, diolch i ddau gynllun darpariaeth chwarae llwyddiannus a gynigir gan MonLife, corff twristiaeth, hamdden, diwylliant a gwasanaethau ieuenctid y sir.

Mae Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf Llywodraeth Cymru wedi darparu prydau iach, maeth ac addysg bwyd, gweithgaredd corfforol a sesiynau cyfoethogi i blant mewn rhannau penodol o’r sir yn ystod gwyliau’r haf.

Bu dros 420 o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen bedair wythnos am ddim mewn pump ysgol, gyda sesiynau yn Ysgol Gynradd Overmonnow ac Ysgol Gynradd Kymin View yn Nhrefynwy, Ysgol Thornwell yng Nghas-gwent, Ysgol Gynradd Dewstow yng Nghil-y-coed ac Ysgol Gynradd Deri View yn y Fenni. Roedd yr ymateb i’r cynllun yn galonogol tu hwnt gyda llawer iawn o’r plant wrth eu bodd yn gwneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar chwaraeon newydd.

Yn y cyfamser, mae MonLife wedi cynnig Gemau Sir Fynwy cyffrous a phoblogaidd, gydag amrywiaeth o wahanol ddiddordebau a hobïau yn cadw plant a phobl ifanc yn egnïol a diddan dros wyliau’r haf. Cynhaliwyd y rhaglen pump wythnos yn holl ganolfannau hamdden y sir yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, gyda bron 900 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan. Fe wnaeth bron bawb fynegi eu dymuniad i fynychu sesiynau yn y dyfodol.

Hon yw’r chweched flwyddyn i MonLife drefnu’r Gemau. Wedi eu hanelu at blant rhwng 5 a 11 oed, maent wedi annog miloedd i ddatblygu hyder, cwrdd â ffrindiau newydd ac, yn bwysicaf oll, i fwynhau a chael hwyl drwy chwaraeon. Gyda’r heriau a achoswyd gan y pandemig, roedd digwyddiadau eleni hefyd yn anelu i helpu gwella llesiant a hyrwyddo cyrff a meddyliau iach.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod Cabinet Sir Fynwy dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf a Gemau Sir Fynwy wedi bod yn neilltuol o werthfawr yn ystod y pandemig, gan alluogi plant y sir i fod yn egnïol, cael hwyl a chymdeithasu. Cawsant eu trefnu’n wych gan staff MonLife ac maent yn rhoi tawelwch meddwl i rieni bod eu plant yn derbyn gofal mewn amgylchedd hwyliog a diogel.”

Fe wnaeth Gemau Sir Fynwy a Chynllun Gwella Gwyliau’r Haf ddenu cyfanswm o 7,750 presenoldeb dros yr haf gyda phlant yn mwynhau 7,240 o brydau am ddim a ddarparwyd yn unol â’r ystod eang o fuddion a gyflwynir gan y Rhaglen Gwella Gwyliau Ysgol.