Skip to Main Content

Cafodd dyddiad cau ymgynghoriad er budd cymunedau Dyffryn Gwy ei ymestyn gan 18 diwrnod i roi mwy o amser i breswylwyr, sefydliadau ac ymwelwyr i ymateb.

Mae Cyngor Sir Fynwy, gan weithio gydag Ardal Harddwch Naturiol Dyffryn Gwy a chynghorau cymuned lleol, yn gofyn i breswylwyr ac ymwelwyr edrych ar gynigion ar gyfer ei Adroddiad (Cam 2)  Pentrefi Dyffryn Gwy. Cafodd y dyddiad cau gwreiddiol o 12 Medi yn awr ei ymestyn i ganol-nos ar 30 Medi.

Cafodd yr adroddiad ei gynhyrchu gan gwmni dylunio a pheirianneg ARUP ac mae’n rhoi strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer pentrefi Tryleg, Penallt, Y Narth, Devauden, Tyndyrn, St Arvans, Llandogo, Llanisien a Catbrook. Tyfodd y cynllun i ddechrau o faterion yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a seilwaith pentrefi, ond cydnabu’r cyngor a’i bartneriaid fod set mwy cymhleth o heriau a chytunodd ystyried y rheiny hefyd.

Mae gwybodaeth ar wefan ymgysylltu yr adroddiad (wye-valley-villages.virtual-engage.arup.com) yn cynnwys fideo cyflwyno byr gan y Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Sir Fynwy, yn ogystal â dolenni i’r ymgynghoriad a’r cynigion a ddatblygwyd ar gyfer pob un o’r naw pentref.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Hoffwn annog y rhai sy’n byw, gweithio neu’n ymweld â’r ardaloedd dan sylw i ddarllen yr adroddiad ac ymateb gyda’u barn, sylwadau ac i fwydo unrhyw awgrymiadau ychwanegol.  Rhoddwn groeso cynnes i’ch ymateb.”

Mae copïau papur o Adroddiad Cam 2 Pentrefi Dyffryn Gwy ar gael yn Gymraeg neu Saesneg drwy gysylltu â’r cyngor drwy e-bost – contact@monmouthshire.gov.uk – neu drwy ffonio 01633 644644.