Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn diweddaru ei gynllun gweithredu i ostwng ei effaith ar yr hinsawdd ac mae’n awyddus i gael syniadau ar weithio gyda chymunedau i dorri allyriadau carbon.

Mae cynllun gweithredu Sir Fynwy yn dilyn ei ddatganiad am argyfwng hinsawdd yn 2019 ac roedd yn ymrwymo’r cyngor i dorri ei allyriadau carbon ei hun i sero-net erbyn 2030 tra’n gweithio gyda phreswylwyr a sefydliadau i helpu gostwng newid hinsawdd. Er y gwnaed cynnydd da – yn cynnwys annog teithio llesol ac ailgylchu, newid i ynni adnewyddadwy, prynu cerbydau trydan, gosod mesurau arbed ynni a newid y ffordd y mae’n rheoli gofodau gwyrdd – mae’r cyngor yn gwybod fod angen iddo ddwysau ei gamau gweithredu os yw i gyrraedd targedau gostwng carbon.

Gall preswylwyr a sefydliadau gynorthwyo’r cyngor i ddatblygu ei gynllun gweithredu hinsawdd drwy gymryd rhan mewn arolwg ar-lein – shorturl.at/ekpET – neu fynychu sesiwn galw heibio yn Llyfrgell y Fenni ddydd Llun 20 Medi rhwng 2pm a 5pm lle bydd y cyngor yn arddangos ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol a derbyn syniadau i’w gwella ymhellach. Bydd y cyngor hefyd yn cynnal stondin rhwng 10am a 4pm yng Ngŵyl Dyfodol Hinsawdd Trefynwy ddydd Llun 26 Medi lle croesewir cyfraniadau gan y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am newid hinsawdd: “Gwnaethom lawer o gynnydd da wrth ostwng allyriadau carbon a helpu i ostwng newid hinsawdd, ond mae angen brys i ni wneud llawer mwy. Ni all y cyngor wneud hyn ar ei ben ei hun – rydym angen i bawb chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, felly cymerwch ran, dweud wrthym beth yw eich barn chi a gadael i ni wybod sut y gallwn eich helpu i ymuno yn yr her o gyrraedd ein targed o garbon sero-net.”