Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal arolwg i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddiwydiant twristiaeth yr ardal.

Mae’n amser adolygu Cynllun Rheoli Cyrchfan strategol Sir Fynwy, sy’n llywio rhedeg sector twristiaeth y sir, a bydd y cyngor yn gofyn i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr am eu sylwadau ar sut i ddatblygu, rheoli a marchnata potensial yr ardal.

Mae twristiaeth yn hollbwysig i economi Sir Fynwy ac yn ysgogi incwm i gefnogi ystod eang o fusnesau sy’n manteisio o wariant ymwelwyr. Yn ôl ffigurau a gafwyd gan ddangosydd economaidd twristiaeth STEAM (‘ (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor’), daeth y 2.28m o ymwelwyr i Sir Fynwy yn 2019 â bron £245m i’r economi lleol a chefnogi cyfwerth â 3,119 o swyddi llawn-amser.

Er bod y cyngor yn awyddus i hyrwyddo twf ac adferiad economaidd yn dilyn y pandemig Covid-19, mae’n sylweddoli bod angen cadw cydbwysedd rhwng safbwyntiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol os yw twristiaeth i ddatblygu mewn modd cynaliadwy. Mae’n anelu i ddatblygu economi twristiaeth sy’n osgoi effaith negyddol ar yr amgylchedd gan sicrhau profiad cadarnhaol i ymwelwyr gyda chroeso cynnes gan gymunedau Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am dwristiaeth: “Byddem yn croesawu eich sylwadau p’un ai ydych yn fusnes sy’n ymwneud â’r economi ymwelwyr, yn byw yn Sir Fynwy neu wedi ymweld â’r sir dros y tair blynedd ddiwethaf.”

I gael mynediad i’r arolwg, mewngofnodwch i: www.visitmonmouthshire.com/destination-survey.aspx erbyn dydd Mawrth 30 Tachwedd. Bydd gan bawb sy’n llenwi’r arolwg gyfle i ennill hamper Nadolig gan gywaith Cynhyrchwyr Dyffryn Gwy yn llawn o gynnyrch rhagorol yr ardal!