Skip to Main Content

Bydd gan plant Ysgol Gynradd Parc y Castell yng Nghil-y-coed yn awr le diogel a sych i gadw eu beiciau a’u sgwteri diolch i werth £6,500 o gyllid o Gronfa Trafnidiaeth Leol COVID-19.

Defnyddiwyd y cyllid, a ddaeth i law drwy Gyngor Sir Fynwy, i osod lloches a stand i feiciau o fewn tir yr ysgol, gyda’r nod o annog Teithio Llesol i’r ysgol. Mae’r prosiect yn ategu’r gwelliannau i Heol yr Eglwys, fydd yn creu amgylchedd mwy dymunol a chefnogol i gerddwyr a seiclwyr ar gyfer pobl leol, y gymuned ysgol ac ymwelwyr.

Mae Heol yr Eglwys yn un o blith llawer o gynlluniau adfywio a theithio llesol sydd gan y Cyngor ar y gweill i helpu gwneud Cil-y-coed yn lle gwell fyth i fyw, gweithio, ymweld ag ef a gwneud busnes ynddo. Mae’r rhaglen eisoes wedi creu gofod cyhoeddus newydd yn y Groes ac wedi darparu grantiau i fusnesau lleol i wella eu safleoedd. Cafodd cynlluniau ar gyfer rhannau i gerddwyr yn unig ar Heol Casnewydd eu cwblhau’n gynharach eleni yn dilyn ymgynghoriad lleol ac mae Cyngor Sir Fynwy wrthi’n ceisio cyllid ar gyfer eu gweithredu.

Gosodwyd y lloches beiciau gan Alun Griffiths Contractors fel rhan o’u gwaith ar gynllun Heol yr Eglwys. Mae Alun Griffiths Contractors hefyd wedi rhoi nifer o dybiau a gafodd eu hailgylchu ar gyfer plannu blodau yn yr ysgol fel rhan o’u cynllun buddion cymunedol ac wedi cynnig i’w cydlynydd amgylcheddol ddod i’r ysgol yn y dyfodol. Mae’r holl weithiau hyn yn cyfnerthu polisi Natur Wyllt y cyngor sy’n anelu i hyrwyddo bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn llawer o ofodau’r sir. Mae’n gynllun a gefnogwyd gan Grant Seilwaith Gwyrdd Llywodraeth Cymru gyda manteision gwenyn, blodau gwyllt a bywyd gwyllt arall a welwyd eisoes i fod yn ffynnu dros y misoedd cynhesach.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaethau: “Bydd a rhaid i Deithio Llesol ddod yn rhan bwysig o’n dyfodol wrth i ni barhau i edrych am ffyrdd o warchod ein hamgylchedd a gostwng yr effeithiau ar ein hinsawdd. Mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr fod y gwasanaethau a seilwaith gennym i gefnogi’r amcanion hyn a dyna pam rwyf mor falch i ni fedru gosod y lloches beiciau yma ar gyfer y plant, ac yn wir y staff. Mae rhoi’r offer i genedlaethau’r dyfodol y maent eu hangen i’w helpu i ddewis opsiynau teithio gwell ac i gadw’n egnïol yn golygu y gallwn adeiladu Teithio Llesol i’n bywydau yn y dyfodol. Diolch i Alun Griffiths Contractors am eu holl gefnogaeth ar y prosiect hwn ac edrychaf ymlaen at ei weld yn cael ei ddefnyddio pan fydd ein disgyblion yn dychwelyd ym mis Medi.”

Mae’r gwaith yng Nghil-y-coed yn un o lawer o gynlluniau sy’n anelu i hyrwyddo Teithio Llesol yn y sir a gwahoddir preswylwyr i roi eu sylwadau ar ffyrdd i wella seiclo a dulliau a llwybrau trafnidiaeth eraill drwy ymgynghoriad. Gall pobl rannu eu sylwadau drwy fynd i  https://www.monmouthshire.gov.uk/active-travel-consultation/