Skip to Main Content

Wrth i ganlyniadau Lefel A eleni gael eu cyhoeddi, mae myfyrwyr yn y pedair ysgol uwchradd yn Sir Fynwy: Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol Brenin Harri VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy yn dathlu cymryd y cam nesaf ar eu taith addysgol. Mewn wythnos pan fydd myfyrwyr iau hefyd yn derbyn eu canlyniadau TGAU, mae’n amser hollbwysig i ddisgyblion fydd yn ystyried eu hopsiynau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mewn blwyddyn ysgol a gafodd ei tharo gan bandemig COVID-19, mae’r canlyniadau hyn yn benllanw gwaith gwych ac yn arddangos gwytnwch ein pobl ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc: “Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch ein holl fyfyrwyr a dderbyniodd eu graddau Lefel A a Lefel AS heddiw. Bu’n rhaid i chi ymdopi gyda chyfnod o her a straen na welwyd ei debyg a buoch angen ymroddiad hynod i’ch gwaith yn ystod y cyfnod.

“Wrth i chi edrych ymlaen at gam nesaf eich taith, bydded hynny mewn prifysgol, coleg neu weithle, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i chi yn y bennod nesaf! Yr adeg hon o’r flwyddyn mae bob amser yn bwysig cofio am y gefnogaeth a gaiff ein dysgwyr gan eu hathrawon, staff ysgol ac wrth gwrs eu teuluoedd a gofalwyr.”

Ychwanegodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc: “Mae ein myfyrwyr yn haeddu clod mawr am y ffordd y maent wedi ymateb i bopeth a daflodd y deunaw mis diwethaf atynt. Maent wedi addasu i ddysgu ar-lein a phrosesau asesu newydd ac mae hyn yn dyst o’u hymroddiad i ddysgu. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff yn ein hysgolion am eu gwaith i gefnogi eu dysgwyr drwy’r cyfnod mwyaf heriol hwn.”