Skip to Main Content

Bydd rhieni yn Sir Fynwy yn y dyfodol agos yn medru olrhain taith eu plentyn i’r ysgol diolch i ap newydd ‘Traciwr Bws Ysgol’.

Gan fod yn ap ffôn symudol sy’n cysylltu rhieni gyda system cludiant ysgol eu plentyn, mae’r ‘Traciwr Bws Ysgol’ yn rhoi gwybodaeth uniongyrchol i rieni ac ysgolion a’u hysbysu pan fyddant wedi cyrraedd a phan mae oedi, gan ddangos lle mae cludiant ysgol mewn amser real. Mae hyn yn galluogi ysgolion i drin a rheoli unrhyw sefyllfaoedd cludiant yn effeithiol, yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl i rieni o wybod ble mae eu plentyn Gan ddefnyddio technoleg tracio GPS, mae’r ap yn galluogi rhieni a gweinyddwyr ysgolion i leoli a monitro taith bws ysgol y plentyn ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol.

Bydd yr ap yn rhad ac am ddim i rieni i’w lawrlwytho, a phan fyddant yn cofrestru anfonir cod QR atynt drwy e-bost fydd yn galluogi myfyrwyr i’w sganio wrth fynd i fewn i’r cerbyd. Pan gaiff ei sganio, bydd hyn wedyn yn hysbysu a diweddaru rhieni am daith eu plentyn.

Bydd ap y gyrrwr hefyd yn galluogi’r gyrrwr i roi gwybod am unrhyw oedi neu sefyllfaoedd argyfwng drwy weithredu llais, gan fod yn gysylltiad amser real rhwng y bws a’r gweithredwr cludiant gan roi sianel cyfathrebu symudol diogel.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Bydd yr ap gwych hwn yn helpu rhieni i gynllunio ymlaen llaw tra’n cael gwybodaeth fyw am ble mae eu plant. Rwyf wrth fy modd yn gweld technoleg mor flaengar yn cael ei chyflwyno yn Sir Fynwy.”

Y nod yw cyflwyno’r ap i bob un o’r pedair ysgol gyfun yn Sir Fynwy ym mis Medi, gan fod o fudd i’r cyngor yn ogystal â rhieni. Bydd ‘Traciwr Bws Ysgol’ yn helpu Cyngor Sir Fynwy i gynllunio a gweithredu anghenion trafnidiaeth mwy effeithol drwy ddefnyddio data adrodd a chludiant yr ap.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr ap:

SchoolBusTracker (schoolbustrackerapp.com)